Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r Ysgol yn cefnogi ymchwil helaeth a thrwyadl mewn nifer o feysydd, yn cynnwys ecoleg d诺r, ymddygiad anifeiliaid, endocrinoleg, egn茂eg a ffisioleg, ecoleg foleciwlaidd, geneteg pysgodfeydd, bioddiraddio microbaidd a bioasferiad, genomeg micro-organebau a phlanhigion, systemau a thechnoleg planhigion, biogeocemeg gwlypdiroedd, a niwrowyddoniaeth a datblygiad cymharol. Mae graddau ymchwil ar gael mewn pynciau sy'n ymwneud 芒 sbectrwm llawn ein harbenigedd ymchwil. Fe'i cefnogir gan ystod o asiantaethau cyllido cenedlaethol a rhyngwladol ac mae cysylltiadau 芒 phartneriaid diwydiannol ac academaidd ledled y byd.
Mae'r rhaglenni MScRes yn raddau blwyddyn yn llawn-amser trwy ymchwil (hefyd ar gael yn rhan-amser), sy'n wahanol i gyrsiau Meistr hyfforddedig traddodiadol gan eu bod yn raddau sy'n seiliedig ar ymchwil, ac felly'n rhoi pwyslais ar y project ymchwil. Bydd y radd hon yn rhoi hyder a chymhwysedd i chi yn y sgiliau ymchwil diweddaraf, ac yn eich galluogi i wneud cais am raglenni hyfforddiant ymchwil pellach (PhD), neu i wneud cais uniongyrchol am swyddi ymchwil mewn prifysgolion neu sefydliadau ymchwil.
MScRes: Nid oes credydau ar gyfer y radd MScRes, a chaiff ei harholi trwy'r traethawd hir yn unig, gan gynnwys arholiad viva voce.
Oherwydd y ffocws cryf ar y project ymchwil ar gyfer y radd hon, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i chi fod wedi trefnu pwnc gyda goruchwyliwr penodol, yr ydych chi'ch dau'n cytuno arno, cyn i chi wneud cais. Mae yna ystod eang o bynciau posib, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ddiddordebau ymchwil staff yn: www.bangor.ac.uk/cns/research. Gallwch hefyd fynd at Ysgol y Graddedigion i gael cyngor pellach. Byddwch yn treulio'r tri mis cyntaf yn mireinio'ch cynnig project ac yn cynnal adolygiad trylwyr o'r Llenyddiaeth.
Byddwch hefyd yn cyflwyno'ch cynnig i weddill y garfan a'r goruchwylwyr. Bydd yr adborth a gewch chi'n eich galluogi i wella'r project a'r traethawd ymchwil. Bydd disgwyl i chi hefyd fanteisio ar y rhaglen hyfforddiant a ddarperir gan Goleg y Gwyddorau Naturiol ac Ysgol y Graddedigion ac Ysgol Ddoethurol y Brifysgol mewn sgiliau pwnc-benodol a generig 么l-raddedig.
Cysylltiadau 脗 Diwydiant聽
Mae cysylltiadau staff cenedlaethol a rhyngwladol helaeth yn golygu eich bod yn aml yn gallu cynnal eich projectau ymchwil ar y cyd ag ymgynghoriaethau masnachol, cynghorau lleol, sefydliadau amgylcheddol (e.e. Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, RSPB, Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain - llawer ohonynt 芒 swyddfeydd rhanbarthol wedi'u lleoli ym Mangor), a sefydliadau ymchwil y llywodraeth (e.e. Canolfan Ecoleg a Hydroleg) yn y Deyrnas Gyfunol, a thramor (mae projectau blaenorol wedi cynnwys gwaith maes yn India'r Gorllewin, Affrica, y Maldives, ac amryw o wledydd Ewropeaidd).
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad mae angen gradd anrhydedd dda mewn pwnc biolegol perthnasol gan brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan unrhyw sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol.
Gyrfaoedd
Yn ogystal 芒 dod o hyd i gyflogaeth benodol yn seiliedig ar y wybodaeth arbenigol a gafwyd yn ystod hyfforddiant 么l-raddedig, bydd eich cyflogadwyedd cyffredinol yn cael ei wella gan dystiolaeth o'ch gallu i weithio'n annibynnol, i feddwl yn ddadansoddol ac yn flaengar, a chysyniadu a chwestiynu. Yn ystod eich astudiaethau, byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau proffesiynol hanfodol fel sgiliau cyfathrebu, gwaith t卯m ac arweinyddiaeth dda, a gwella'ch profiad ymarferol. Mae'r rhai sydd wedi graddio yma yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i yrfaoedd mewn ymchwil (yn y byd academaidd a sefydliadau ymchwil) yn ogystal ag ymgynghoriaethau amgylcheddol masnachol, DEFRA, awdurdodau d诺r, cyhoeddi gwyddonol, penseiri tirwedd a llawer o rai eraill.
Gwneud Cais
Y cam cyntaf yw nodi prosiect sy'n eich diddori ac yna cysylltu 芒'r aelod o staff sy'n ei hysbysebu. Byddant wedyn yn eich cynghori a yw a sut y dylech wneud cais ffurfiol i'r Brifysgol. Wrth gysylltu 芒 goruchwylwyr posibl, dylech amlinellu'n fyr eich cefndir academaidd ac egluro eich diddordeb yn y prosiect yr ydych yn cysylltu amdano, yn ogystal 芒 atodi CV.
Peidiwch 芒 chyflwyno cais uniongyrchol am radd ymchwil 么l-raddedig i Brifysgol 亚洲色吧 heb nodi goruchwyliwr posibl yn gyntaf a thrafod eich diddordebau ymchwil a'ch cais gyda hwy yn gyntaf.