Pam Astudio Bioleg?
Cynigiwn gefnogaeth gref ar gyfer gweithgareddau ymchwil; mae cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr wneud gwaith project gyda goruchwylwyr sy鈥檔 cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Byddwch hefyd yn elwa o'r cysylltiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol helaeth sydd gennym gyda sefydliadau'r wladwriaeth a rhai鈥檙 sector preifat.聽
Mae ein myfyrwyr yn mwynhau bod yma ac rydym yn ymfalch茂o yn ansawdd yr addysgu a'r gofal bugeiliol a gynigiwn. Mae gennym draddodiad hir o addysgu ac ymchwilio ym maes Gwyddorau Biolegol. Mae ymchwil a gyflwynwyd gan ein staff wedi ei gydnabod ymhlith yr 20 uchaf yn y Deyrnas Unedig (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, 2014).
Mae gennym gyfleusterau rhagorol ar gyfer astudio fflora a ffawna - gan gynnwys casgliadau o nadroedd, madfallod a physgod, Gardd Fotaneg ac Amgueddfa Astudiaethau Natur ar y campws.
Mae ein staff bob amser yn sicrhau eu bod ar gael i helpu myfyrwyr trwy gydol eu hastudiaethau.
Mae ein darlithwyr a鈥檔 hymchwilwyr yn ymwneud ag amrywiaeth o ymchwil sy'n gysylltiedig 芒 bioleg, ac yn defnyddio'r adnoddau rhagorol sydd ar gael ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Bydd eich project ymchwil fel arfer yn cyfrannu at ymchwil arloesol a chyfredol.
Cyfleoedd Gyrfa o fewn Bioleg
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd ymchwil (yn y byd academaidd ac mewn sefydliadau ymchwil) yn ogystal 芒 gweithio i ymgynghoriaethau amgylcheddol masnachol, DEFRA, awdurdodau d诺r, cyhoeddiadau gwyddonol, penseiri tirwedd a llawer mwy.
Mae鈥檙 farchnad swyddi sydd ohoni鈥檔 cynnig amrywiaeth fawr o gyfleoedd gwaith ym meysydd amaethyddiaeth, meddygaeth, fferylliaeth, dyframaeth a gwyddorau fforensig ac amgylcheddol. Mae econom茂au Tsieina ac India, sy'n datblygu'n gyflym, yn benodol wedi sylweddoli cymaint yw鈥檙 cyfleoedd y mae鈥檙 maes pwnc hwn yn eu cynnig.聽 Mae swyddi ym maes gwerthu a marchnata gyda chwmn茂au gwyddonol eu natur hefyd yn gyffredin. Bydd rhai graddedigion hefyd yn dewis ychwanegu at eu gwybodaeth trwy ddilyn rhaglenni ymchwil pelllach mewn meysydd perthnasol.
Ein Hymchwil o fewn Bioleg
Rydym yn cefnogi ymchwil helaeth a thrwyadl mewn nifer o feysydd, yn cynnwys: ecoleg foleciwlaidd, geneteg pysgodfeydd, DNA hynafol, bioleg esblygiadol a chadwraeth, biogeocemeg, biohydrofeteleg, biocemeg cynnyrch planhigion a ffisioleg straen (planhigion), biogeocemeg gwlypdiroedd, niwroffisioleg anifeiliaid cramennog, ymatebion anifeiliaid i straen a microbioleg gymhwysol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.