Trwy roddion hael gan gyn-fyfyrwyr, mae Cronfa 亚洲色吧 yn falch iawn o ariannu project Acwariwm o fewn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion, sy'n canolbwyntio ar gadwraeth ac ecoleg. Nod y project yw amlygu ymchwil arloesol yr ysgol mewn dyframaeth pysgod riff cwrel, a chadwraeth ac ecoleg riffiau, gyda phwyslais arbennig ar y Project Acwariwm Cynaliadwy diweddar. (SNAP), sy鈥檔 dirnod rhaglen ymchwil newydd i wella llwyddiant bridio acwariwm.
Ar ddiwedd 2024, bu staff a myfyrwyr yn cydweithio i osod yr acwariwm yng Nghanolfan F么r Cymru. Mae'r acwariwm yn gartref i bysgod ac infertebratau a gynhyrchir gan staff a myfyrwyr uned dyframaeth yr ysgol. Mae'r t卯m o naw myfyriwr a phedwar aelod o staff yn goruchwylio gwaith cynnal a chadw'r acwariwm o ddydd i ddydd, a鈥檙 gwaith ychwanegu pysgod ac infertebratau yn raddol. Mae'r project hwn wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr hyfforddi a datblygu sgiliau mewn hwsmonaeth anifeiliaid, technegau dyframaeth a rheoli acwariwm. Yn ogystal 芒 hynny, mae myfyrwyr wedi cymryd rhan flaenllaw mewn datblygu ffeithluniau rhywogaethau gan roi cipolwg i'r gwyliwr ar astudiaethau natur y rhywogaethau sy'n cael eu harddangos.
Mae鈥檙 acwariwm wedi creu canolbwynt i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr. Mae鈥檔 gweithredu fel arf llesiant, gan ddarparu effeithiau iechyd cadarnhaol, wrth annog dysgu a thrafodaeth rhwng staff a鈥檔 myfyrwyr am anifeiliaid dyfrol yn yr acwariw