Bydd y cwrs BSc Radiograffeg Ddiagnostig ym Mhrifysgol 亚洲色吧 (a addysgir ar聽Gampws Wrecsam Prifysgol 亚洲色吧) yn rhoi cymysgedd unigryw o sgiliau technoleg a sgiliau pobl i chi a fydd yn eich gwneud yn hynod gyflogadwy. Byddwch yn dysgu nid yn unig am sut mae pelydrau-x yn cael eu cynhyrchu ac am anatomeg y corff dynol, ond hefyd sut i siarad 芒 phobl a pha fath o bethau a all fod yn destun pryder i gleifion/ defnyddwyr gwasanaeth.
- Mae Radiograffeg yn cael cymeradwyaeth y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac yn y broses o wneud cais am gymeradwyaeth Coleg Radiograffwyr hefyd
- Mae bwrsariaethau a gyllidir gan y GIG, sy'n talu'r holl ffioedd dysgu ac yn rhoi cymorth grant tuag at gostau byw, ar gael i fyfyrwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig.
- Mae gan ein staff ystod eang o brofiad clinigol cyfoes yn eu meysydd proffesiynol
- Rydym yn cynnig rhaglenni ymchwil blaenllaw ym maes iechyd ac yn gysylltiedig 芒 meddygaeth sy'n trawsnewid ansawdd a darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol
- Nid oes yr un brifysgol arall yn cynnig mwy o wythnosau clinigol drwy gydol y cwrs
- Bydd cyfle i ennill profiad o ymarfer dwyieithog yn rhai rhannau o'ch lleoliadau.
Byddwch yn treulio oddeutu 50% o'ch amser allan mewn adrannau clinigol yn gweithio ochr yn ochr 芒 staff cymwys ac yn archwilio cleifion, a fydd yn sicrhau bod eich dysgu o'r ansawdd uchaf ac yn adlewyrchu ymarfer meddygol modern. Bydd lleoliadau ar gael i chi ar draws Gogledd Cymru gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mewn rhai ymddiriedolaethau GIG cyfagos. Mae'r modiwlau academaidd yn ymdrin 芒 them芒u sy'n codi'n gyson yn ymwneud ag Ymarfer Radiograffeg, Gwyddor Radiograffeg, gwerthuso ymarfer ac adfyfyrio. Byddwch hefyd yn astudio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill mewn modiwl rhyngbroffesiynol a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar ymarfer a blaenoriaethau mewn meysydd eraill ac yn eich datblygu yn chwaraewr t卯m a all chwarae rhan allweddol mewn lleoliadau clinigol.