亚洲色吧

Fy ngwlad:

Sut Rydym yn Gweithio

Ein dull o weithredu

Yn 么l syniadau dylunio, mae tair elfen allweddol sy'n arwain at arloesi: bod yn ddichonadwy, yn ddymunadwy ac yn hyfyw. Neu, o'u rhoi'n syml: mae'n gweithio, mae ei angen, ac mae'n gwneud arian.听

Mae Arloesi Pontio yn gweithio'n fras yn 么l model lle bo arloeswyr o wahanol ddisgyblaethau yn ychwanegu gwerth at gysyniadau a syniadau cychwynnol: mae听gwyddonwyr听yn ychwanegu gwerth technolegol;听辫别颈谤颈补苍飞测谤听yn ychwanegu gwerth swyddogaethol;听artistiaid听yn ychwanegu gwerth dynol a听phobl fusnes听yn ychwanegu gwerth masnachol.听听

Mae profiad wedi dangos i ni bod yr arloesi gorau yn digwydd ar draws yr holl ffiniau hyn a thrwyddynt.

Methu'n gyflym, methu'n aml, methu'n well

Yn union fel bywyd, mae arloesi'n gymhleth ac anodd ei ragweld. Yn Arloesi Pontio rydym yn meithrin diwylliant sy'n derbyn ac yn annog llawer o 'fethiannau' ar y llwybr i lwyddiant.听Rydym yn annog ein harloeswyr i drawsffurfio'r heriau hyn a methiannau a ragwelir i brofiadau dysgu llwyddiannus sy'n effeithio'n gadarnhaol ar weithredu dilynol.

Sut rydym yn dysgu

Mae'r cwrs Menter trwy Ddylunio yn dod ag israddedigion o wahanol ddisgyblaethau at ei gilydd - yn wyddonwyr, peirianwyr, artistiaid a myfyrwyr busnes.听听听 Maent yn cydweithio mewn timau i feddwl am atebion newydd i sialensiau bywyd go iawn a roddir gan y gymuned fusnes.

Yn dilyn cyfres o weithdai dwys dros wyth wythnos yn canolbwyntio ar ysbrydoliaeth, creadigrwydd, cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth fasnachol, mae'r timau'n cyflwyno eu cynnyrch i banel o arbenigwyr mewn cystadleuaeth i ennill buddsoddiad i gynhyrchu eu cynnyrch.听
Mae'r rhaglen Menter trwy Ddylunio wedi cael croeso mawr iawn gan fyfyrwyr a phartneriaid busnes fel ei gilydd. Mae'r cwrs yn gyfrwng rhagorol i'r gymuned fusnes archwilio cyfleoedd newydd heb lawer o risg.