Tystysgrif Sgiliau Iaith
Mae Canolfan Bedwyr yn cynnig sesiynau iaith sydd yn paratoi myfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É i sefyll arholiad .
Pan fydd graddedigion yn nodi bod ganddynt Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth ymgeisio am swyddi, gall cyflogwyr fod yn hyderus fod ganddynt
- lefel uchel o sgiliau iaith Gymraeg (a gydnabyddir gan y sector addysg uwch a chan gyflogwyr)
- y gallu i gyfathrebu'n hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg mewn amrywiaeth o gyd-destunau a sefyllfaoedd
Mae nifer o gyflogwyr eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i’r Dystysgrif ac mae’r rhestr gyfredol o gyflogwyr sy’n cydnabod y Dystysgrif yn ffurfiol i’w gweld ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r sesiynau paratoi a gynigir gan Uned Sgiliau Iaith Canolfan Bedwyr yn cynnwys yr elfennau canlynol:
- cyflwyniadau llafar effeithiol
- trawsieithu
- ysgrifennu’n rhydd
- golygu a chywiro testun
- defnyddio Cysgliad yn effeithiol
Ewch i wefan i gael mwy o wybodaeth.