RoboLlywydd a Lleisiau Cymraeg eraill
Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi creu offer newydd ar gyfer cynhyrchu lleisiau synthetig Cymraeg sy鈥檔 swnio鈥檔 naturiol iawn. Bydd y lleisiau hyn yn gallu darllen yn uchel unrhyw destun o gyfrifiadur neu ddyfais symudol.
Fel rhan o broject , a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, datblygwyd dull cyflym a hawdd o baratoi promptiau, recordio llais unigolyn yn eu darllen, a defnyddio gwybodaeth am seiniau鈥檙 Gymraeg i adeiladu lleisiau synthetig sy鈥檔 swnio鈥檔 debyg iawn i lais yr unigolyn a recordiwyd.
Yn nigwyddiad SeneddLab2017 yng Nghaerdydd yn ddiweddar, cafodd t卯m Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr gyfle i roi hyn ar brawf, gan adeiladu llais newydd mewn un awr i roi gwybodaeth lafar am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a鈥檌 alw yn 鈥楻oboLlywydd鈥.
Gallwch chi wrando ar y llais ar .
Esboniodd Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd yr Uned:
鈥淩oedden ni eisiau estyn ein system 鈥楳acsen鈥, sy鈥檔 brototeip o gynorthwyydd personol digidol tebyg i Siri neu Alexa, i ddefnyddio lleisiau gwahanol unigolion. Roedden ni hefyd eisiau鈥檙 modd i allu darparu lleisiau synthetig i blant ac oedolion sydd yn siarad Cymraeg ond ar fin colli eu llais eu hun oherwydd llawdriniaeth neu gyflwr meddygol. Fe ddefnyddion ni system o鈥檙 enw MaryTTS, a鈥檌 haddasu ar gyfer y Gymraeg. Dipyn bach o hwyl oedd galw鈥檙 llais newydd yn 鈥楻oboLlywydd鈥, ond mae鈥檔 dangos beth sy鈥檔 bosib.鈥
Mae鈥檙 project Macsen hefyd wedi datblygu 鈥榖ocs t诺ls鈥 ar gyfer datblygu a gwella adnabod lleferydd ar gyfer y Gymraeg, gan gynnwys offer dadansoddi cronfeydd sain a鈥檜 halinio gyda thestun, a mathau newydd o fodelau acwstig o鈥檙 recordiadau mae鈥檙 Uned wedi casglu hyd yn hyn drwy ap torfoli o鈥檙 enw Paldaruo.
Esboniodd Dewi Bryn Jones eto: 鈥淢ae鈥檙 rhain, gyda鈥檙 offer creu lleisiau newydd, i gyd ar gael o鈥檙 Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru () i unrhyw un eu defnyddio ar gyfer cynnwys technoleg lleferydd Cymraeg yn eu projectau meddalwedd. Mae鈥檙 adnoddau at ddefnydd cwmn茂au meddalwedd bach a mawr yn ogystal a chlybiau codio a hob茂wyr medrus 鈥 y nod yw cael y dechnoleg mewn gymaint o gynnyrch digidol ag y gallwn ni.鈥
Dywedodd Delyth Prys, Pennaeth yr Uned: 鈥淩ydyn ni wir yn teimlo ein bod ni wedi torri drwodd eleni, nid yn unig i ddarparu technoleg bwysig ar gyfer y Gymraeg, ond hefyd fel patrwm i ieithoedd bach eraill ei ddilyn, a datblygu adnoddau tebyg.鈥
Mae鈥檙 gwaith i wella gallu鈥檙 adnabod lleferydd yn parhau, ac mae t卯m yr Uned Technolegau Iaith yn annog eraill ymuno yn y gwaith hwn drwy recordio eu lleisiau yn yr ap Paldaruo a鈥檜 cyfrannu i鈥檙 project. Mae modd hefyd i ddatblygwyr ac unrhyw un sydd ag ychydig bach o ddealltwriaeth codio lwytho i lawr ac ehangu Macsen gyda鈥檜 lleisiau eu hunain a/neu ychwanegu cwestiynau newydd i鈥檙 system.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2017