Rhannu technolegau iaith y Gymraeg 芒 gweddill y byd
Ar 25 Ionawr, daeth ymchwilwyr academaidd, datblygwyr lleol a chynrychiolwyr rhai o gwmn茂au mawr y sector digidol at ei gilydd ym Mangor i drafod a rhannu arferion da ym maes technolegau iaith, a hynny yng Nghynhadledd Technoleg a鈥檙 Gymraeg 2019. Dyma鈥檙 drydedd gynhadledd i鈥檞 chynnal gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol 亚洲色吧.Eluned Morgan AC yn agor y gynhadledd
Eleni, agorwyd y gynhadledd gan Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a gyflwynodd Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru, sef cynllun uchelgeisiol gan y Llywodraeth i sicrhau defnydd cyflawn o dechnoleg yn ei nod o sicrhau bod miliwn o siaradwyr y Gymraeg erbyn 2050.
Yn ogystal 芒 thrafod y Cynllun Gweithredu, cafwyd cyflwyniadau ar strategaethau digidol ar gyfer adfywio ieithoedd, technoleg adnabod lleferydd ar gyfer y Gymraeg a thrafodaethau ar sut y gall technolegau iaith fod yn yrrwr i鈥檙 economi. Yn ogystal, rhoddwyd sylw i ieithoedd lleiafrifol eraill a lle technoleg yng nghyd-destun hyfywedd yr ieithoedd hynny.
Ymhlith y cyfranwyr eleni oedd cynrychiolydd o gwmni rhyngwladol Mozilla, arweinydd project Amrywiaeth ieithyddol Digidol Ewrop, ymchwilydd cyfieithu peirianyddol o Dublin City University a Wicimediwr Cenedlaethol Cymru, Jason Evans.
Wrth gloriannu鈥檙 gynhadledd eleni, meddai Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, Delyth Prys:
鈥淩ydyn ni鈥檔 arbennig o falch o fedru croesawu Eluned Morgan i agor y gynhadledd eleni. Mae鈥檙 Gymraeg yn rhan o deulu o ieithoedd bach ar draws y byd sy鈥檔 awyddus i lwyddo yn y byd technolegol a digidol newydd, ac mae cyfleoedd fel hyn i rannu syniadau a datblygiadau arloesol yn bwysig i ni i gyd. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Cymru yn flaengar wrth ddefnyddio technolegau iaith i adfywio a diogelu ein hiaith, ac rydyn ni鈥檔 falch o fedru rhannu鈥檙 datblygiadau yma gyda鈥檙 gymuned ryngwladol ehangach.鈥
Ategwyd hyn gan Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor sydd 芒 chyfrifoldeb dros y Gymraeg:
鈥淵n ogystal 芒 bod yn ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg o bwys, mae鈥檔 wych gweld Prifysgol 亚洲色吧 yn arwain ar yr holl elfennau atodol hynny 鈥 ymchwil, polisi a thechnoleg 鈥 sy鈥檔 cyfrannu at gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nid agweddau ar wah芒n mo rhain, yn bodoli mewn gwagleoedd, ond yn hytrach y seilwaith sydd ei hangen arnom wrth i ni gyrchu鈥檙 nod uchelgeisiol hwn.鈥
Wrth agor y gynhadledd eleni, cyfeiriodd Eluned Morgan AC at yr angen i dechnoleg Gymraeg i allu cynnal datblygiadau presennol yn y maes ac i rannu ei harbenigeddau ag eraill:
鈥淢ae technoleg eisoes wedi newid y ffordd ry鈥檔 ni鈥檔 byw yn llwyr, ac mae鈥檔 bosibl y bydd y newidiadau鈥檔 digwydd yn gyflymach fyth yn y dyfodol. Dwi鈥檔 falch fod cynhadledd o鈥檙 fath wedi ei drefnu er mwyn i bawb allu dysgu oddi wrth ein gilydd er budd ein hieithoedd ni i gyd ym myd technoleg.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2019