Rhannu arbenigedd mewn cynllunio a hyrwyddo鈥檙 Gymraeg efo ymwelwyr o Rwsia
Croesawodd Canolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau, technoleg ac ymchwil Cymraeg Prifysgol 亚洲色吧, ymchwilwyr academaidd o Rwsia yn ddiweddar.
Mae鈥檙 Athro Konstantin Sulimov a Dr Nadezhda Borisova o Adran Gwyddor Gwleidyddiaeth Prifysgol Perm yn arwain project ymchwil sy鈥檔 canolbwyntio ar berthynas lleiafrifoedd ethnig a鈥檙 gwladwriaethau y maent yn rhan ohonynt. Gan fod perthynas Cymru a鈥檙 Deyrnas Unedig o ddiddordeb penodol iddynt, roeddent wedi dewis ymweld 芒 Phrifysgol 亚洲色吧 ar sail ei henw da yn rhyngwladol ym maes cynllunio iaith a hyrwyddo鈥檙 Gymraeg.
Ar 么l iddynt gael eu croesawu鈥檔 ffurfiol gan Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg, rhoddodd yr ymwelwyr gyflwyniad ar eu gwaith, sy鈥檔 cwmpasu lleiafrifoedd ethnig ledled y byd. Cawsant gyfle wedyn i drafod gyda鈥檙 Athro Hunter, Dr Llion Jones, Dr Lowri Hughes a Delyth Prys o Ganolfan Bedwyr a Dr Cynog Prys o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Cymdeithas y gwahanol strategaethau sydd ar waith yng Nghymru i sicrhau dyfodol i鈥檙 Gymraeg a gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg.
Meddai Dr Nadezhda Borisova am yr ymweliad:
鈥淩oedden ni鈥檔 ymwybodol iawn o gryfderau Prifysgol 亚洲色吧 ym maes cynllunio iaith ond hefyd yn gyfarwydd 芒鈥檙 ffaith ei bod hi鈥檔 brifysgol ryngwladol ei golygon lle mae dwyieithrwydd hefyd yn cael ei weithredu鈥檔 ymarferol. Mae鈥檙 berthynas rhwng hawliau iaith a hunaniaeth yn ystyriaeth ganolog yn ein project鈥.
Ychwanegodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr:
鈥淩oedd hi鈥檔 bleser cael croesawu yr ymwelwyr o Brifysgol Perm i Ganolfan Bedwyr. Mae ymweliadau fel hyn yn cadarnhau鈥檙 ffaith fod yna arwyddoc芒d rhyngwladol i arbenigedd Prifysgol 亚洲色吧 ym maes y Gymraeg a chynllunio iaith.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2017