Pen-blwydd Ymgyrch Common Voice Cymraeg yn Un Oed
Heddiw (dydd Gwener 7 Mehefin, 2019) mae’n flwyddyn gyfan ers lansio’r ymgyrch Common Voice Cymraeg ( ). Mae Common Voice yn llwyfan torfoli a ddatblygwyd gan gwmni meddalwedd rhyngwladol Mozilla, ac yn ymdrech i gasglu recordiadau llais o nifer o ieithoedd y byd ar gyfer creu technoleg lleferydd cod agored yn yr ieithoedd hyn.
Eisoes mae’r Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi defnyddio’r casgliad corpws cyntaf gafodd ei ryddhau (cyfanswm o 21 awr o recordiadau) i greu’r ap adnabod lleferydd, ‘Macsen’. Erbyn hyn, mae 41 awr wedi’u recordio a’u dilysu, a hynny gan 708 o wirfoddolwyr.
Mae’r Uned yn anelu at gasglu 100 o oriau wedi’u dilysu a chyfraniadau gan 1000 o bobl ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd hynny yn eu galluogi i wella adnabod lleferydd Cymraeg a chynhyrchu rhagor o adnoddau ar gyfer siarad yn Gymraeg gyda dyfeisiau electronig.
I’r rhai sydd eisoes wedi cyfrannu, y neges gan yr Uned yw ‘diolch, a chyfrannwch ragor!’ Os nad ydi unigolion wedi cyfrannu eto, mae’r Uned yn eich hannog i roi cynnig arni. Maent yn chwilio am acenion o bob math, gan gynnwys acenion dysgwyr, ac os nad yw unigolion yn teimlo’n ddigon hyderus i gyfrannu eu llais, gallant helpu’r Uned i ddilysu’r corpws drwy wrando ar leisiau cyfranwyr eraill.
Hoffai’r Uned ddiolch i Mozilla am gynnwys y Gymraeg yn rhan o’r project Common Voice; i Lywodraeth Cymru am ariannu’r gwaith o ddatblygu adnabod lleferydd Cymraeg; ac i am eu gwaith gwirfoddol yn hyrwyddo Common Voice Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019