Macsen yn siarad mwy
Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn mynd yn fwy clyfar bob dydd. Erbyn hyn mae gan lawer o bobl yng Nghymru ddyfeisiau fel Alexa, Siri, a Google Now sy鈥檔 medru ateb cwestiynau ar lafar am y tywydd, newyddion a ffeithiau defnyddiol eraill. Maen nhw hyd yn oed yn medru ymateb i lais yn gofyn iddyn nhw gynnau鈥檙 golau, troi鈥檙 trydan ymlaen neu bethau tebyg. Yn anffodus, dim ond yn Saesneg mae鈥檙 rhain yn gweithio, ond rydyn ni gam yn nes at gael system debyg yn Gymraeg gyda Macsen, sy鈥檔 ffrwyth gwaith ym Mhrifysgol 亚洲色吧, gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Ar y dechrau roedd Macsen yn medru ymateb i orchmynion syml yn unig, ond erbyn hyn mae hefyd yn medru ateb cwestiynau eraill, a mynd i鈥檙 erthyglau mwyaf poblogaidd yn y Wicipedia Cymraeg a chael hyd i wybodaeth ddefnyddiol yno. Mae鈥檔 ddarllen allan y paragraff cyntaf o erthygl, neu benawdau鈥檙 newyddion, gan ddefnyddio llais synthetig.
Bellach, mae cymuned bach o ddatblygwyr a hob茂wyr brwdfrydig yn dechrau cydio yn Macsen. Mae鈥檙 rhain yn cynnig syniadau newydd am sgiliau ychwanegol i鈥檙 system. Un o鈥檙 rhain yw鈥檙 syniad o wneud teclyn pwrpasol i fod yn 鈥榞orff鈥 iddo, yn lle gorfod defnyddio microffon a seinydd ar wah芒n, a鈥檜 cysylltu wrth gyfrifiadur bach Rasbperry Pi, fel mae鈥檔 rhaid gwneud ar hyn o bryd. Mi fydd datblygiadau fel hyn yn gaffaeliad nid yn unig i siaradwyr Cymraeg, ond i economi Cymru hefyd, wrth i gwmn茂au bach lleol fedru defnyddio鈥檙 dechnoleg newydd i ddeall apiau 芒 rhyngwynebau lleferydd Cymraeg.
Datblygiad arall gyda phroject Macsen yw rhaglen drawsgrifio sy鈥檔 teipio ar y sgrin beth mae unigolyn yn ei ddweud. Eglurodd Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr y rhaglen yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr:
鈥淢ewn gwirionedd mae鈥檙 cyfrifiadur yn teipio allan beth mae鈥檔 meddwl fod person wedi鈥檌 ddweud bob tro y bydd yn rhoi gorchymyn llafar i Macsen. Datblygiad o鈥檙 gwaith hwnnw felly yw dangos y testun ar y sgrin. Ond mae geirfa鈥檙 trawsgrifiwr yn llawer ehangach nag un Macsen, a bydd yn gwella eto wrth gael ei hyfforddi. Ar hyn o bryd mae鈥檔 gweithio鈥檔 well gyda lleisiau penodol, ac unigolion sydd wedi defnyddio鈥檜 llais i ddysgu鈥檙 system.鈥
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: 鈥淩ydym yn byw mewn byd lle mae technoleg yn datblygu yn hynod gyflym. Mae鈥檔 hollbwysig i鈥檙 Gymraeg gadw lan gyda鈥檙 datblygiadau diweddaraf os ydym am sicrhau ein bod yn cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Dyna pam rwy鈥檔 falch i gefnogi datblygiadau fel Macsen.鈥
Mae鈥檙 cod a鈥檙 adnoddau a ddatblygwyd i wneud hyn ar gael am ddim ar y we, drwy鈥檙 Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol (). Gall unrhyw ddatblygwr, cwmni neu hob茂wr ddefnyddio鈥檙 adnoddau hyn i greu cynnyrch defnyddiol ohonyn nhw, ac maen nhw鈥檔 addas hefyd i鈥檞 defnyddio mewn clybiau codio Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018