Lansio cyfrol arloesol ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg
Bydd cyfrol o ysgrifau ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg yn cael ei lansio gan y ar yr 21ain o Ionawr ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Mae鈥檙 gyfrol yn cynnwys saith ysgrif gan y Dr Bruce Griffiths o Fangor, y Dr David Willis o Brifysgol Caergrawnt, y Dr Elena Parina o Rwsia, sydd ar hyn o bryd ym mhrifysgol Marburg yn yr Almaen, Bob Morris Jones o Aberystwyth, y Dr Gwen Awbery o Gaerdydd, Andrew Hawke o Eiriadur Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Robat Trefor o Brifysgol 亚洲色吧.
Hon yw鈥檙 gyfrol gyntaf sy鈥檔 trafod agweddau ar ieithyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i gael ei chyhoeddi ers cryn amser, er bod y twf diweddar yn statws y Gymraeg, a鈥檙 defnydd ohoni, yn gwneud astudio鈥檙 iaith yn fater cynyddol bwysig. Dywedodd Dylan Phillips, uwch reolwr academaidd y Coleg Cymraeg: 鈥淢ae鈥檙 gyfrol hon yn llenwi peth ar y bwlch enfawr yn y maes, ac yn gaffaeliad i fyfyrwyr ac ysgolheigion sy鈥檔 ymddiddori mewn Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth鈥.
Traddodwyd yr ysgrifau yn wreiddiol fel cyfres o ddarlithiau 鈥淵 G卯cs Gramadeg鈥 a drefnwyd gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol 亚洲色吧. Dywedodd Delyth Prys, pennaeth yr Uned a golygydd y gyfrol: 鈥淔e gafon ni ymateb anhygoel i鈥檙 darlithiau, gyda dros gant o fyfyrwyr, staff a chyfieithwyr yn mynychu鈥檙 sesiynau. Roedden nhw鈥檔 cael eu darlledu dros y rhwydwaith fideo o Fangor i stiwdios eraill y Coleg Cymraeg ar draws Cymru. Roedd galw wedyn am gyhoeddi鈥檙 darlithiau, ac fe fanteision ni ar dechnoleg newydd yr e-lyfr i wneud hyn yn hwylus ac yn rhad i bawb.鈥
Y siaradwr gwadd yn y lansiad fydd Dafydd Glyn Jones, cyd-olygydd Geiriadur yr Academi, ac un a fu鈥檔 ymgyrchu鈥檔 frwd am flynyddoedd i sefydlu Coleg Cymraeg ac i gryfhau ysgolheictod Cymraeg o fewn Addysg Uwch yng Nghymru.
Mae鈥檙 gyfrol wedi鈥檌 chyhoeddi ar Y Porth, llwyfan e-ddysgu鈥檙 Coleg Cymraeg. Mae ar gael yno i鈥檞 llwytho i lawr yn rhad ac am ddim fel e-lyfr i ddyfeisiau Apple ac Android (fformat EPUB), a Kindle (fformat MOBI), neu fel PDF i ddarllen ar gyfrifiadur. Ewch i i lwytho copi i lawr.
7yh, nos Fercher 21 Ionawr yng Nghanolfan Bedwyr, Ffordd y Coleg, 亚洲色吧.
Am ragor o fanylion cysylltwch 芒 Swyddfa Canolfan Bedwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2015