Hwb i iaith cynorthwywyr dosbarth Fflint a Wrecsam
Mae pymtheg o gynorthwywyr dosbarth yn cael hyfforddiant sgiliau iaith Gymraeg ar gwrs sy’n cael ei gynnig yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf.
Mae’r cynorthwywyr i gyd yn gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac felly’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd i gefnogi athrawon a disgyblion. Tiwtoriaid arbenigol o Ganolfan Bedwyr, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É sy’n gyfrifol am y cwrs, sy’n cael ei gynnal ar safle Ysgol Croes Atti Glannau Dyfrdwy yn Shotton. Ei nod yw adeiladu ar sgiliau presennol y cynorthwywyr a rhoi hwb i’w hyder i ddefnyddio’r iaith yn eu gwaith.
Dyma’r diweddaraf yng Nghynllun Sabothol Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, cynllun sy’n ceisio paratoi athrawon, darlithwyr a chynorthwywyr dosbarth i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy hyderus mewn cyd-destun proffesiynol. Eleni mae’r Cynllun yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed. Mae cyflwyno’r cwrs uwch i gynorthwywyr yn ffordd addas iawn o ddathlu hynny, yn ôl y Prif Diwtor, Eleri Hughes.
Eleri yw Pennaeth Uned Sgiliau Iaith Canolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau Cymraeg Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Meddai:
“Yng Ngwanwyn 2006, arweiniodd Canolfan Bedwyr y gwaith o ddatblygu’r cyrsiau sabothol cyntaf i athrawon a darlithwyr. Cyrsiau peilot oedd y rhain i ddechrau, ac ymhen amser, dan ein harweiniad ni, daethant yn fodiwlau wedi’u hachredu’n llawn ym Mhrifysgolion ÑÇÖÞÉ«°É, Caerdydd a’r Drindod Dewi Sant.
“Ers hynny, mae’r Cynllun wedi datblygu i gynnwys cyrsiau ar lefelau Mynediad a Sylfaen yn ogystal â’r cwrs Uwch gwreiddiol. Yr hyn sy’n gwneud y cyrsiau hyn yn wahanol i gyrsiau iaith eraill ydy’r ffaith eu bod yn canolbwyntio ar y gweithle. Mae pob dim y mae’r cynorthwywyr yn ei wneud ar y cwrs yn rhywbeth y byddan nhw’n arfer ei wneud yn yr ysgol.
Mae Elfair Roberts, Athrawes Ymgynghorol y Gymraeg – Sir y Fflint, hefyd yn dysgu ar y cwrs. Mae’n ychwanegu:
“Bydd y cynorthwywyr yn datblygu eu sgiliau ieithyddol, a'u dealltwriaeth o'r iaith Gymraeg ymhellach - ac yn codi eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lawr y dosbarth.
“Mae'r cwrs yn gyfle gwerthfawr iawn i'r cynorthwywyr, ac mae cynnwys y cwrs yn sicr o gynnig datblygiad proffesiynol gwych iddynt fel unigolion. Maes o law, bydd yr ysgolion a’r plant sydd yn eu gofal hefyd yn elwa.
Mae cwrs y cynorthwywyr dosbarth yn cael ei gynnal am 18 diwrnod dros gyfnod o 11 wythnos. Fel holl gyrsiau’r Cynllun Sabothol, mae’n cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn talu costau teithio i’r unigolion a chostau cyflenwi i’w hysgolion.
Y cwrs Sabothol nesaf i’w gynnal yng ngogledd Cymru fydd y cwrs byr i athrawon ysgol a darlithwyr Addysg Bellach, a fydd yn dechrau fis Ebrill. Dyddiad cau derbyn ceisiadau ar ei gyfer yw 29 Ionawr. Cysylltwch â Chanolfan Bedwyr ar 01248 383293 neu cynllunsabothol@bangor.ac.uk am fanylion pellach.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ionawr 2016