Dathlu llwyddiant cwrs Cymraeg arloesol
Cyflwynwyd tystysgrifau i griw o gynorthwywyr dosbarth sydd wedi cwblhau cwrs newydd sbon i roi hwb i sgiliau iaith. Daeth y pymtheg sy鈥檔 gweithio mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn siroedd y Fflint a Wrecsam i seremoni yn Ysgol Croes Atti, Glannau Dyfrdwy. Dyma鈥檙 criw cyntaf erioed i gwblhau鈥檙 cwrs lefel Uwch hwn yn y Gogledd.
Cafodd y cwrs sy鈥檔 cael ei ddysgu gan diwtoriaid Canolfan Bedwyr, Prifysgol 亚洲色吧, ei gynnal am 18 diwrnod dros gyfnod o 11 wythnos. Ei nod oedd adeiladu ar sgiliau鈥檙 ymarferwyr a chynyddu eu hyder i ddefnyddio鈥檙 iaith ar lawr y dosbarth wrth iddyn nhw gynorthwyo disgyblion a chefnogi athrawon. Rhoddwyd pwyslais ar ddatblygu eu dealltwriaeth a鈥檜 gwybodaeth am yr iaith Gymraeg, fel eu bod yn gallu cyflwyno ac atgyfnerthu鈥檙 patrymau cywir ar lafar ac wrth ysgrifennu.Cafodd y cwrs sy鈥檔 cael ei ddysgu gan diwtoriaid Canolfan Bedwyr, Prifysgol 亚洲色吧, ei gynnal am 18 diwrnod dros gyfnod o 11 wythnos. Ei nod oedd adeiladu ar sgiliau鈥檙 ymarferwyr a chynyddu eu hyder i ddefnyddio鈥檙 iaith ar lawr y dosbarth wrth iddyn nhw gynorthwyo disgyblion a chefnogi athrawon. Rhoddwyd pwyslais ar ddatblygu eu dealltwriaeth a鈥檜 gwybodaeth am yr iaith Gymraeg, fel eu bod yn gallu cyflwyno ac atgyfnerthu鈥檙 patrymau cywir ar lafar ac wrth ysgrifennu.
Yn 么l un o鈥檙 ymarferwyr sef Michelle Taylor, Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug:
鈥淩oedd y cwrs yn heriol pob wythnos, ond diddorol ac addas i fy ngwaith.鈥
Dywedodd Delyth Groves, Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon:
鈥淲nes i fwynhau y cwrs yn fawr iawn, mae o wedi ymestyn pob agwedd o fy iaith, rwyf yn llawer mwy hyderus r诺an.鈥
Ychwanegodd Faye Guest sy鈥檔 gweithio yn yr un ysgol,
鈥淒w i鈥檔 teimlo鈥檔 llawer mwy ymwybodol o reolau ac yn fwy hyderus wrth siarad ac ysgrifennu yn yr ysgol.鈥
Esboniodd dwy chwaer sy鈥檔 gweithio fel cynorthwywyr yn Ysgol Bryn Tabor, Coedpoeth eu bod wedi elwa鈥檔 fawr ar y profiad.
Nododd Angharad Robertson,
鈥淩wyf yn hynod o hapus hefo鈥檙 datblygiad yn fy ngwaith llafar. Rwy鈥檔 teimlo yn llawer mwy hyderus yn siarad Cymraeg ar 么l cwblhau鈥檙 cwrs.鈥
Ategodd ei chwaer Lowri Roberts hyn,
鈥淩ydw i wedi mwynhau popeth, ac wedi dysgu llawer o bethau newydd.鈥
Yn ystod y seremoni, datgelodd Nia Heledd Williams un o diwtoriaid y cwrs o Ganolfan Bedwyr,
鈥 Yn dilyn llwyddiant y cwrs peilot hwn, rydym yn hynod falch o gyhoeddi y bydd dau gwrs Cynllun Sabothol arall i Gynorthwywyr yn cael eu cynnal yn y gogledd y flwyddyn nesaf. Y naill ym M么n rhwng Ionawr ac Ebrill, a鈥檙 llall yn Wrecsam rhwng Ebrill a Gorffennaf.鈥
Mae鈥檙 ddau gwrs yn cael eu hariannu鈥檔 llawn gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn talu costau teithio i鈥檙 unigolion a chostau cyflenwi i鈥檞 hysgolion. Cysylltwch 芒 Chanolfan Bedwyr ar 01248 383293 neu cynllunsabothol@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2016