Datblygu technoleg adnabod lleferydd ar gyfer y Gymraeg
Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr newydd gael grant gwerth 拢56,000 gan gronfa Technoleg a鈥檙 Gymraeg Lywodraeth Cymru a buddsoddiad gan gronfa ddigidol S4C i ddatblygu mwy ar adnabod lleferydd ar gyfer y Gymraeg.
Sgwrs gyda dyn dall mewn digwyddiad i lansio geiriadur termau anabledd arweiniodd yr Uned i weithio ar dechnoleg lleferydd yn y man cyntaf. Eglurodd Delyth Prys, pennaeth yr Uned: 鈥淎r y dechrau, dim ond safoni termau oedden ni, ond wrth lansio ein Canllawiau Defnyddio Terminoleg Anabledd n么l yn 2001, fe ddywedodd un cyfaill dall fod angen mwy na thermau safonol arnyn nhw, ac mai鈥檙 hyn oedden nhw wir ei angen oedd cyfrifiadur i siarad Cymraeg. Aethon ni ati wedyn i chwilio am arian i wneud adnoddau testun i leferydd, lle mae鈥檙 cyfrifiadur yn darllen allan destun Cymraeg, ac roedd hynny鈥檔 llwyddiant mawr. Wedyn roedd pobl yn gofyn i ni am raglen iddyn nhw fedru siarad yn Gymraeg gyda鈥檙 cyfrifiadur, ond roedd hynny鈥檔 llawer mwy anodd. Bydd y grant yma yn help mawr i ni greu system rheoli 芒 llais, a chorpws llafar mawr i helpu gwneud system fwy soffistigedig.鈥
Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C, Elin Morris: 鈥淢ae technoleg adnabod llais yn y Gymraeg wedi鈥檌 drafod fel adnodd fyddai鈥檔 cynnig manteision sylweddol i ni fel darlledwyr mewn sawl ffordd dros y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad roedd S4C Masnachol yn falch iawn o allu gweithio gyda Phrifysgol 亚洲色吧 a buddsoddi yn y cynllun cyffrous yma. Wrth i dechnoleg symud yn ei flaen yn gyflym ym maes darlledu, mae鈥檔 bwysig iawn inni adnabod cyfleoedd fydd yn golygu nad yw鈥檙 Gymraeg yn cael ei gadael ar 么l, nac yn cael ei disodli mewn aelwydydd Cymraeg eu hiaith. Yn yr achos yma fe fydd gan y dechnoleg y potensial i agor drysau i鈥檙 Gymraeg ar blatfformau digidol, megis teledu clyfar, archifo cynnwys digidol a gwasanaethau ff么n cyfrifiadurol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cymorth ariannol i hwyluso鈥檔 gwaith ar y cyd 芒 Phrifysgol 亚洲色吧.鈥
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, 鈥"I sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu yn yr 21ain ganrif rhaid i ni wneud yn siwr bod technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg ar gael yn hawdd. Rwy鈥檔 falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi鈥檙 datblygiad hwn, a fydd yn agor y drws ar fedru rheoli pob math o declynnau gyda geiriau Cymraeg. Mae gweld ymchwil fel hyn yn digwydd mewn prifysgol yng Nghymru, hefyd yn beth i鈥檞 groesawu鈥檔 fawr.鈥
Dywedodd John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 亚洲色吧, 鈥淢ae鈥檙 newyddion am y grant newydd yn ffordd wych o ddathlu dros ugain mlynedd o ymchwil terminoleg a thechnoleg iaith ym Mhrifysgol Mangor. Mae鈥檙 gwaith wedi mynd o nerth i nerth yma, ac mae t卯m yr Uned Technolegau Iaith i鈥檞 llongyfarch ar eu llwyddiant diweddaraf.鈥
Y mis hwn mae鈥檙 gwaith Terminoleg ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn dathlu 20 mlynedd yn y maes. Dechreuodd gyda chomisiwn i safoni termau ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol yn Rhagfyr 1993, pan sefydlwyd y Ganolfan Safoni Termau yn yr Ysgol Addysg. Yn 2001 daeth y ganolfan yn rhan o鈥檙 Uned Technolegau Iaith newydd yng Nghanolfan Bedwyr, a daeth yr Uned newydd hefyd yn gyfrifol am Cysill, rhaglen gwirio sillafu a gramadeg arloesol y Brifysgol, oedd wedi bod yn mynd ers dechrau鈥檙 1990au. Erbyn hyn mae unarddeg o bobl yn gweithio yn yr Uned, yn gyfuniad unigryw o ieithwyr, terminolegwyr a datblygwyr meddalwedd. Mae鈥檙 Uned yn gwbl hunan gyllidol, ac yn dibynnu ar grantiau ymchwil, comisiynau ac arian trwyddedu meddalwedd i ariannu鈥檙 gwaith.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ionawr 2014