Datblygu iaith yn arwain at ddatblygu gyrfa
Ddechrau鈥檙 haf cafodd yr athrawes Nia Daly o Landrillo yn Rhos ei chyflwyno 芒 thystysgrif go arbennig 鈥 am gwblhau cwrs i ddatblygu ei sgiliau iaith Gymraeg yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol 亚洲色吧.
Mae鈥檔 dair blynedd ers i Mrs Daly wneud ac mae ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.
Pan ddilynodd y cwrs, roedd Nia Daly鈥檔 Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Babanod yr Eglwys yng Nghymru, Llanelwy. Roedd hi鈥檔 awyddus i ddatblygu鈥檙 defnydd o鈥檙 Gymraeg yn yr ysgol a chefnogi cyd-athrawon a oedd yn llai hyderus na hi yn yr iaith.
Gan mai yn Saesneg yr oedd Nia wedi arfer gweithio, roedd hi鈥檔 teimlo nad oedd ei Chymraeg yn ddigon da ar gyfer gwaith gweinyddol fel ysgrifennu llythyrau ac adroddiadau swyddogol. Mae Nia鈥檔 dod o Wynedd yn wreiddiol, a Chymraeg yw ei hiaith gyntaf. Er hyn, astudiodd ei phynciau academaidd drwy gyfrwng y Saesneg ac mae鈥檔 cyfaddef ei bod wedi ceisio osgoi ysgrifennu yn y Gymraeg am flynyddoedd oherwydd diffyg hyder.
Dywedodd Nia: 鈥淎r ddechrau鈥檙 cwrs roedd fy Nghymraeg llafar i鈥檔 eithaf da a fy mwriad i oedd gwella fy ngallu i ysgrifennu yn Gymraeg. Ar ddiwedd y cwrs roeddwn i鈥檔 teimlo fy mod i wedi gwneud camau enfawr tuag at gyflawni hyn. Rydw i nawr yn llawer mwy hyderus ac awyddus i ysgrifennu yn Gymraeg ac mae fy iaith lafar wedi ei gloywi hefyd.鈥
Mae Nia Daly bellach yn Bennaeth Mewn Gofal yn Ysgol Eglwysbach, ble mae鈥檙 Gymraeg yn rhan annatod o fywyd bob dydd yr ysgol. Mae hi hefyd yn Arolygwr Cymheiriaid gydag ESTYN, y corff arolygu Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Yn y swydd honno mae鈥檔 cynnal arolygiadau ysgolion drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 么l Nia, y a roddodd y sgiliau a鈥檙 hyder iddi fedru gwneud hyn.
鈥淭asech chi wedi dweud wrtha i dair blynedd yn 么l y buaswn i鈥檔 ysgrifennu adroddiadau arolygiadau yn Gymraeg, fuaswn i ddim wedi eich credu chi,鈥 dywedodd Nia. 鈥淒ydi o ddim yn ormod dweud bod y Cynllun Sabothol wedi newid fy ngyrfa i.鈥
Mae cwrs uwch y Cynllun Sabothol yn gwrs sy鈥檔 cael ei ariannu鈥檔 llawn gan Lywodraeth Cymru ac yn agored i athrawon, darlithwyr ac aseswyr iaith gyntaf ac ail iaith sy鈥檔 siarad Cymraeg yn rhugl. Bydd y cwrs nesaf, dros 20 diwrnod, yn digwydd rhwng Ebrill a Gorffennaf 2016 ac mae Canolfan Bedwyr eisoes yn derbyn ceisiadau ar ei gyfer.
Am ragor o fanylion cysylltwch 芒 th卯m y Cynllun Sabothol ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Medi 2015