Cyfraniad tiwtor iaith yn cael ei gydnabod
Mae Prif Diwtor Uned Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr wedi derbyn gwobr uchel ei bri am ragoriaeth mewn dysgu.
Yn ystod seremoni raddio yn y Brifysgol ar 15 Gorffennaf, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ddysgu Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É i Eleri Hughes am ei gwaith arloesol yn darparu cefnogaeth ieithyddol i fyfyrwyr sy’n eu galluogi i drin a thrafod eu pynciau yn hyderus yn Gymraeg.
Mae Cymrodoriaethau Dysgu yn cael eu dyfarnu yn flynyddol i hyrwyddo, gwobrwyo a dathlu rhagoriaeth mewn gwaith addysgu sy’n cefnogi a chyfoethogi profiad myfyrwyr ÑÇÖÞÉ«°É.
Dywedodd Eleri, “Roeddwn i’n fyfyrwraig yma ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn gwneud gradd yn y Gymraeg pan oedd Bedwyr Lewis Jones yn Athro yma. Erbyn hyn, dw i’n bennaeth ar Uned Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr ac yn helpu myfyrwyr a staff i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder i ymdrin â’u pynciau yn Gymraeg. Mae cael fy ngwneud yn Gymrawd Dysgu'r Brifysgol am waith sydd yn rhoi cymaint o bleser i mi’n anrhydedd o’r mwyaf.“
Fel rhan o’r dyfarniad, bydd Eleri yn derbyn y teitl Cymrawd Dysgu Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ac yn ymuno ag Academi’r Cymrodyr Dysgu.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2015