Cyflwyno tystysgrifau i ddysgwyr ar Ddiwrnod Shwmae Su鈥檓ae
Derbyniodd nifer o staff y Brifysgol sydd wedi bod yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dystysgrifau am ei hymdrechion heddiw, a hynny fel rhan o ddathliadau , sef diwrnod sy鈥檔 hybu defnydd o鈥檙 Gymraeg drwy annog pawb i ddechrau sgwrs gyda chyfarchiad yn yr iaith.
Mae 12 o aelodau staff wedi llwyddo mewn arholiadau CBAC Cymraeg i Oedolion eleni, yn cynnwys 2 sydd wedi llwyddo ar lefel Uwch, sef Dr Sian Davies, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a鈥檙 Athro Nathan Abrams, Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau.
Yn ogystal 芒 hyn, mae 53 aelod staff wedi ennill Tystysgrif Cymraeg yn y Gweithle ar wahanol lefelau dros y flwyddyn ddiwethaf, sy鈥檔 gynnydd sylweddol yn nifer o staff sydd bellach yn gallu defnyddio rhywfaint o Gymraeg yn y gweithle, boed hynny wrth eu gwaith bob dydd neu wrth gymdeithasu 芒鈥檜 cydweithwyr.
Mae dros 150 o aelodau staff yn dilyn cyrsiau Cymraeg o fewn y Brifysgol ac yn y gymuned, gyda chyrsiau ar gael ar gyfer pobl lefel 鈥 o ddysgwyr pur i rai sydd wedi meistrioli鈥檙 iaith ac yn astudio cymwysterau Lefel A 鈥 gan enghreifftio鈥檔 glir ymrwymiad y Brifysgol i ddatblygu dwyieithrwydd ymhlith ei staff ac i osod dwyieithrwydd wrth wraidd ei holl weithgareddau. Yn wir, roedd yr ymrwymiad yma i gynnal ethos ddwyieithog yn un o鈥檙 elfennau a dderbyniodd glod arbennig gan yr yn ei adroddiad ar y brifysgol a gyhoeddwyd ddechrau鈥檙 haf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cyrsiau dysgu Cymraeg ym Mangor ac yn y rhanbarth, ewch i: /cio/index.php.cy.
Fyth ers y Diwrnod Shwmae Su鈥檓ae cyntaf yn 2013, mae鈥檙 Brifysgol wedi cynnal cyfres o weithgareddau ar gyfer staff a myfyrwyr er mwyn hybu defnydd o鈥檙 Gymraeg ar ei safleoedd ac, eleni, mae wythnos gyfan o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Cymraeg 亚洲色吧 (UMCB); o sesiynau sgwrsio i deithiau tywys ac o noson meic-agored i gigs gan rai o artistiaid amlycaf Cymru, bydd rhywbeth yn yr arlwy at ddant pawb, waeth be fo鈥檜 gallu yn y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒 Llywydd UMCB, Gethin Morgan: gethin.morgan@undebbangor.com.
Wrth gyflwyno鈥檙 myfyrwyr 芒鈥檜 tystysgrifau, meddai鈥檙 Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-gangellor (Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad 芒鈥檙 Gymuned):
鈥淢ae鈥檔 bleser cael cyflwyno鈥檙 dysgwyr 芒鈥檜 tystysgrifau a鈥檜 llongyfarch ar eu llwyddiant. Gyda 12 ohonynt wedi llwyddo yn eu haroliadau Uwch, 53 arall wedi derbyn Tystysgrif Cymraeg yn y Gweithle a鈥檙 150 o aelodau staff sydd wedi ymaelodi ar gyrsiau dysgu Cymraeg eleni, dyma hwb aruthrol i allu鈥檙 Brifysgol i weithredu鈥檔 ddwyieithog ac wrth rannu a hyrwyddo diwylliant unigryw y sefydliad hwn gyda staff a myfyrwyr eraill.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2018