Cydnabod athrawon a darlithwyr am ddatblygu sgiliau iaith
Cafodd ymdrechion athrawon a darlithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg eu cydnabod mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol 亚洲色吧 yn ddiweddar.
Yng nghwmni Dirprwy Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Jerry Hunter, dathlwyd llwyddiant unigolion sydd wedi ymroi i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg yng nghyd-destun eu gwaith. Cyflwynwyd tystysgrifau i ymarferwyr addysg o鈥檙 sectorau cynradd, uwchradd ac addysg bellach sydd wedi cwblhau cwrs y .
Cwrs iaith a ddatblygwyd yng Nghanolfan Bedwyr drwy nawdd Llywodraeth Cymru ydy鈥檙 Cynllun Sabothol. Mae鈥檙 cwrs yn anelu at gefnogi un o amcanion strategaeth addysg y llywodraeth, sef cynyddu niferoedd yr athrawon, hyfforddwyr a darlithwyr sy鈥檔 abl i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd yr Athro Jerry Hunter: 鈥淔el un sydd wedi dysgu Cymraeg fy hun a bellach yn arwain ar y Gymraeg yn y Brifysgol, rwy鈥檔 credu ei bod hi鈥檔 hollbwysig fod y Brifysgol yn gallu darparu cyfleoedd fel hyn i athrawon a darlithwyr, yn ddysgwyr rhugl a siaradwyr mamiaith, i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yng nghyd-destun eu gwaith fel addysgwyr.鈥
Dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr: 鈥淧rofiad braf iawn oedd cael cydnabod llwyddiant cynifer o unigolion sydd bellach yn defnyddio鈥檜 Cymraeg o ddydd i ddydd mewn ysgolion a cholegau ar draws gogledd Cymru. Mae Canolfan Bedwyr yn falch iawn o allu cyfrannu鈥檔 ymarferol fel hyn at un o amcanion canolog strategaeth addysg Gymraeg y llywodraeth鈥
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2015