#Bedwyr20 - Trafod effaith Brexit ar y Gymraeg
Fel rhan o ddathliadau #Bedwyr20 Canolfan Bedwyr, bydd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal symposiwm ar 8 Tachwedd i drafod sgil-effeithiau posib Brexit ar y Gymraeg.
Prif siaradwr y symposiwm fydd Emyr Lewis, sy'n gyfreithiwr uchel ei barch ac yn arbenigwr ar hawliau ieithyddol. Bydd yn traddodi darlith ar y testun 'Dwi isio fy iaith nôl': sofraniaeth, xenophobia a'r Gymraeg yn dilyn refferendwm Ewrop'.
Yn dilyn y brif ddarlith, bydd panel o academyddion o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn trafod Y Gymraeg a Brexit o wahanol safbwyntiau. Byddant yn trafod y cyd-destun hanesyddol i’r rhethreg sy’n cael ei amlygu ar hyn o bryd, yr oblygiadau ymarferol i faes cynllunio iaith heddiw a’r oblygiadau posib i'r Gymraeg yn dilyn newidiadau i fyd amaeth, iechyd a’r economi.
Bwriad Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wrth gynnal y symposiwm ydi sbarduno trafodaeth eang ar yr oblygiadau posib i’r Gymraeg yn dilyn Brexit, a thrwy hynny, ddechrau ar y gwaith o gynllunio a gweithredu’n rhagweithiol dros yr iaith yn y cyd-destun newydd hwn. Arwydd o’r diddordeb yn y pwnc yw’r ffaith bod pob un lle ar gyfer y symposiwm wedi’i gymryd.
Cynhelir y symposiwm yn Neuadd Reichel, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar 8 Tachwedd rhwng 1:30 - 5. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2016