Cynhadledd 'Rhoi'r Iaith yn y Gwaith'
13 Tachwedd 2015, Neuadd Reichel, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
#iaithgwaith
Nod y gynhadledd hon, sy'n cael ei threfnu gan Canolfan Bedwyr, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ydy amlygu a thrafod dulliau arloesol o annog a chynorthwyo staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ddydd Gwener 13 Tachwedd 2015 ac mae Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, wedi cytuno i gymryd rhan fel y prif siaradwr.
Bydd gweddill y gynhadledd ar ffurf cyflwyniadau a thrafodaethau o dan bedair thema, sef:
- Ymyriadau Strategol
- Newid Ymddygiad
- Hyfforddiant
- Adnoddau
Ymhlith nifer o siaradwyr eraill, bydd Meri Huws (Comisiynydd y Gymraeg), Dilwyn Williams (Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd), Robin Llywelyn (Portmeirion) a Mair Parry-Jones (Cynulliad Cenedlaethol Cymru).
Bwriad y gynhadledd ydy amlygu arfer dda mewn gweithleoedd ar draws Cymru ac ar draws gwahanol sectorau yn y gobaith o sbarduno ac ysbrydoli datblygiadau pellach yn y maes allweddol hwn.
#iaithgwaith
9:30 | Cofrestru a phaned |
10:00 | Gair o groeso gan yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. |
10:05 | Trosolwg, Dr Lowri Hughes a Dr Llion Jones, Canolfan Bedwyr, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. |
10:20 | Anerchiad gan Brif Weinidog Cymru, Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC. |
10:35 | Thema 1: Ymyriadau Strategol Dilwyn Williams, Prif Weithredwr, Cyngor Gwynedd Tim Jones, Cyfoeth Naturiol Cymru |
11:05 | Paned |
11:30 | Thema 2: Hyfforddiant Meic Raymant, Heddlu Gogledd Cymru 'Dysgu iaith yn y gweithle', Phillip Moore, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
12:00 | Grwpiau trafod wedi'u hwyluso gan Huw Thomas (Sglein) |
12:40 | Cinio (Ystafell Penrhyn) |
13:15 | Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg |
13:30 | Thema 3: Newid Ymddygiad Robin Llywelyn, Portmeirion 'Adennill iaith drwy'r gweithle', Rhys Williams, BBC Cymru |
14:00 | Sesiwn ryngweithiol ar ddeinameg gweithle dwyieithog yng nghmwni Huw Thomas (Sglein) |
14:20 | Thema 4: Adnoddau Mair Parry-Jones, Cynulliad Cenedlaethol Cymru 'Systemau mewnol Dwyieithog', Richard Sheppard, Interceptor Solutions Dafydd Gruffydd, Menter Môn |
14:50 | Gair i Gloi'r Gynhadledd, Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É |
15:00 | Gorffen |
#iaithgwaith
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn Neuadd Reichel ar Ffordd Ffriddoedd. Mae'r neuadd wedi'i nodi fel rhif 17 ar y map isod o adeiladau'r Brifysgol.
Mae digonedd o lefydd parcio ar gael o flaen y neuadd yn rhad ac am ddim.
#iaithgwaith
Mae'r lleoedd ar gyfer y gynhadledd bellach i gyd wedi'u llenwi.
Os hoffech gael eich rhoi ar restr wrth gefn, e-bostiwch iaithgwaith@bangor.ac.uk os gwelwch yn dda.
Fel arall, fe gewch flas ar y gynhadledd trwy ddilyn #iaithgwaith ar Twitter.
#iaithgwaith
Os oes gennych unrhyw ymholiadau o gwbl ynglŷn â'r gynhadledd, mae pob croeso i chi gysylltu â'r trefnwyr:
E-bost: iaithgwaith@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383293.