Cydweithio ag Ysgolion Academaidd
Yn ogystal â'r ddarpariaeth o fodiwlau dewisol, mae Canolfan Bedwyr yn cydweithio â rhai o ysgolion academaidd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É er mwyn rhoi cefnogaeth sgiliau iaith Gymraeg i fyfyrwyr yr ysgolion hynny.
Rydym yn cyfrannu i’r modiwlau blwyddyn gyntaf canlynol:
Cerddoriaeth Ers 1850 (WXC-1300)
Dadansoddi Data Amgylcheddol (ONC-1001)
Sgiliau Academaidd Dwyieithog (PCC-1008)
Sgiliau ar gyfer Dysgu a Gwaith (XAC-1026)
Y Gyfraith yn Gymraeg (SCL-1115)
Gallwn hefyd gynnig sesiynau sgiliau iaith y tu hwnt i fodiwlau, ar gais darlithydd neu gydlynydd modiwl. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tiwtor Sgiliau Iaith, Siân Esmor.
Pwrpas y sesiynau hyn ydy datblygu sgiliau iaith a hyder y myfyrwyr wrth iddyn nhw ddechrau ar eu cyfnod yn y brifysgol. Mae’r sesiynau’n help iddyn nhw wneud aseiniadau Cymraeg yn eu prif bynciau ac yn eu paratoi at fyd gwaith dwyieithog. Maent hefyd yn ddefnyddiol i’r rhai sydd am ymgeisio am am .