Rhagolwg
Bywgraffiad a meysydd ymchwil
Addysgwyd Huw Pryce yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (BA 1979, DPhil 1985). Ymunodd â’r staff ym Mangor yn 1981 a bu'n Athro Hanes Cymru o 2005 hyd ei ymddeoliad yn 2021; y mae bellach yn Athro Emeritws. Yn 2011 fe’i hetholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn 2021 fe'i penodwyd yn Athro er Anrhydedd yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd. Roedd ei thesis doethur yn ymwneud â’r gyfraith Gymreig a’r Eglwys yn yr oesoedd canol, ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes Cymru yn yr oesoedd canol, yn cynnwys cyfrol o’r dogfennau a luniwyd gan dywysogion brodorol Cymru 1120–1283. Hefyd sefydlodd gyfres o gynadleddau ar Gymru’r oesoedd canol a gynhelir bob yn ail blwyddyn ym Mangor er 2002.
Mae ei ymchwil ddiweddar yn canolbwyntio'n bennaf ar hanesyddiaeth Cymru. Ei lyfrau diweddaraf yw astudiaeth o’r hanesydd John Edward Lloyd (1861–1947), Athro Hanes ym Mangor, a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu hanes Cymru fel pwnc academaidd modern; casgliad o ysgrifau wedi eu cyd-olygu yn ymwneud â’r ffordd yr astudiwyd y gorffennol yng Nghymru ac mewn gwledydd bychain eraill rhwng 1850 a 1950; a chyfrol ar hanesyddiaeth Cymru rhwng yr oesoedd canol cynnar a'r presennol. Y mae hefyd yn gyd-olygydd Cylchgrawn Hanes Cymru (Welsh History Review) ac un o olygyddion y cyfresi Studies in Celtic History (Boydell) a Rethinking the History of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru).
Ymchwil: Prosiectau Cyfredol a Diweddar
Hanesyddiaeth Cymru
Dros y ddau ddegawd diwethaf rwyf wedi ymddiddori fwyfwy yn y modd y mae hanes Cymru wedi’i sgrifennu a beth all hyn ei ddweud wrthym am y defnydd o’r gorffennol a chreu hunaniaethau, yn arbennig mewn cenhedloedd bach. Yn ogystal ag astudiaethau ar Gerallt Gymro ac ar nifer o haneswyr yr ugeinfed ganrif, rwyf wedi cyhoeddi (2011) bywgraffiad deallusol o John Edward Lloyd (1861–1947), hanesydd arloesol ar Gymru’r oesoedd canol a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu hanes Cymru fel pwnc academaidd modern, ac wedi cydolygu â Neil Evans cyfrol o ysgrifau sy’n archwilio sgrifennu hanesyddol yng Nghymru ac mewn gwledydd Ewropeaidd eraill 1850–1950 (2013). Yn 2014 traddodais Ddarlith O’Donnell ym Mhrifysgol Rhydychen ar yr ymdriniaeth â hanes canoloesol Cymru yn oes Victoria, ac yn 2019 traddodais Ddarlith O’Donnell ym Mhrifysgolion ÑÇÖÞÉ«°É, Caerdydd a Chymru Y Drindod Dewi Sant ar agweddau ar hanesyddiaeth Cymru o'r oesoedd canol hyd heddiw. Bûm hefyd yn Gyd-Archwiliwr ar brosiect mawr AHRC (2017-20) i olygu gweithiau'r hynafiaethydd, hanesydd a mapiwr Humphrey Llwyd (1527-68): ''.
Yn 2022 cyhoeddais gyfrol yn adeiladu ar yr astudiaethau hyn, sef y llyfr cyntaf ar sut y mae hanes Cymru a’r Cymry wedi’i sgrifennu o’r oesodd canol cynnar hyd y presennol: Writing Welsh History: From the Early Middle Ages to the Twenty-First Century (Gwasg Prifysgol Rhydychen).
Canoloesoldeb a Hynafiaetheg yng Nghymru’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Yn fy Narlith John V. Kelleher yng Nghynhadledd Geltaidd Harvard yn 2011 trafodais y modd y derbyniwyd yr oesoedd canol yng Nghymru oes Victoria, a’r graddau yr arweiniodd hyn at adfywiad neo-ganoloesol mewn diwylliant gweledol a llenyddol. Rwyf wedi cyhoeddi ar agweddau eraill ar y maes ers hynny, gan gynnwys astudiaeth fanwl o ymgais i ddefnyddio awdurdod Cyfraith Hywel Dda mewn achos cyfreithiol yn ymwneud â hawliau glan môr yn Sir Fôn yn 1862–4, a gyhoeddwyd (gyda Gwilym Owen) yn y Journal of Legal History, 35/2(2014), ; erthygl yn trafod dylanwad mesurau treftadaeth Ffrengig ar Harry Longueville Jones, cyd-sylaenydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru (Cambrian Archaeological Association), mesurau y daeth Jones i gymryd rhan ynddynt yn ystod arhosiad ym Mharis (c.1835–42), yn The Antiquaries Journal, 96 (2016), ; a phennod yn yr Oxford Handbook of Victorian Medievalism, gol. Joanne Parker a Corinna Wagner (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2020) yn cymharu'r defnydd o'r oesoedd canol yng Nghymru ac Iwerddon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.Â
Cymru’r Oesoedd Canol
Rwyf wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes Cymru’r oesoedd canol ac yn dal i ymchwilio ar agweddau arno, gan gynnwys Gerallt Gymro. (Rwy'n un o gynghorwyr y prosiect Leverhulme cyfredl 'The Writings of Gerald of Wales'.) Mae elfen ganoloesol gref i’m gwaith ar hanesyddiaeth, gan ei fod yn cynnwys yr oesoedd canol, a hefyd o’r unfed ganrif ar bymtheg hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif tueddai gweithiau ar hanes Cymru i ganolbwyntio’n bennaf ar wreiddiau hynafol a chanoloesol y Cymry ac i ddibynnu’n helaeth ar ffynonellau canoloesol. Yn 2005 cyhoeddais olygiad o siarteri, llythyrau a dogfennau eraill y tywysogion Cymreig, ac arweiniodd fy ymchwil yn y maes hwn at fy ethol yn 2012 yn aelod o’r Commission internationale de diplomatique, o dan y Comité international des Sciences historiques, sydd wedi cynnig fforwm ar gyfer archwilio siarteri a dogfennau canoloesol eraill o Gymru mewn cyd-destun cymharol.
Myfyrwyr PhD
Myfyrwyr PhD presennol
- Elizabeth Holmes, 'Gender, Religion and Ethnicity in the Writings of Gerald of Wales'
- Rhonwen Roberts, ‘Medievalism and Welsh Identity, c.1870–1939’
Myfyrwyr PhD blaenorol
- Jennifer Bell, 'The Development of Early Medieval Saints’ Cults in South Wales' (2022)
- Sadie Jarrett, ‘The Identity and Influence of the Salesbury Family of Rhug and Bachymbyd in the 16th and 17th centuries’ (2021)
- Shaun McGuinness, ‘The Bishops of ÑÇÖÞÉ«°É and their Acta, 1092–1307’ (2020)
- Daniel Rhydderch-Dart, ‘Making Communities in Modern Wales: Caernarfonshire 1880–1914’ (2020)
- Edwin Hustwit, ‘The Britons: Power, Identity and Ethnicity, 350–1000’ (2015)
- Danna Messer, ‘The Uxorial Lifecycle and Female Agency in Wales in the Twelfth and Thirteenth centuries’ (2014)
- Owain Wyn Jones, ‘Historical Writing in Medieval Wales’ (2014)
- Euryn Roberts, ‘Hunaniaeth Ranbarthol yng Nghymru’r Oesau Canol, c.1100–c.1283’ (2013)
- Gwenno Angharad Elias, ‘Golygiad o Lsgr. Peniarth 164 o Gyfraith Hywel’ (2007)
- Matthew J. Pearson, ‘Welsh Cathedral Chapters, 1100–1300’ (2000)
- Stefan Narkiewicz, ‘The Speculum Ecclesiae of Gerald of Wales: An Historical Analysis and Commentary’ (1995)
Gwybodaeth Cyswllt
Ebost: a.h.pryce@bangor.ac.uk
Cyhoeddiadau
2022
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., Mai 2022, Oxford: OUP. 512 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
2021
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., 2021, Social Anthropologies of the Welsh: Past and Present. Morgan, W. J. & Bowie, F. (gol.). Canon Pyon: Sean Kingston Publishing, t. 41-55 15 t. (RAI Country Series; Cyfrol 5).
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
2020
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., Chwef 2020, The Chronicles of Medieval Wales and the March: New Contexts, Studies and Texts. Guy, B., Jones, O. W., Henley, G. & Thomas, R. (gol.). Brepols, 44 t.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 15 Meh 2020, The Oxford Handbook of Victorian Medievalism. Parker, J. & Wagner, C. (gol.). Oxford University Press, 36 t. (Oxford Handbooks).
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
2019
- Cyhoeddwyd
Jones, O. & Pryce, H., Hyd 2019, Medieval Historical Writing: Britain and Ireland, 500–1500. Jahner, J., Steiner, E. & Tyler, E. (gol.). Cambridge University Press
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
2018
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., Ion 2018, Gerald of Wales: New Perspectives on a Medieval Writer and Critic. Henley, G. & McMullen, A. J. (gol.). Universiy of Wales Press, t. 19-45 26 t.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Pryce, H., Gorff 2018, Yn: Montgomeryshire Collections. 106, t. 5-18
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 23 Awst 2018, The Conversation.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigol › Erthygl
2016
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., 2016, Yn: Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. 22, t. 43-60
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 2016, The Geraldines and Medieval Ireland: The Making of a Myth. Crooks, P. & Duffy, S. (gol.). Dublin: Four Courts Press, t. 53-68
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Pryce, H., Medi 2016, Yn: Antiquaries Journal. 96, t. 391-314
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 15 Awst 2016, Yn: Cambrian Medieval Celtic Studies. 71, Summer 2016, t. 1-28
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2015
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., 22 Ion 2015, Yn: History. 100, 339, t. 112-114
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2014
- Cyhoeddwyd
Pryce, H. & Owen, G., Gorff 2014, Yn: Journal of Legal History. 35, 2, t. 172-199
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2013
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., 30 Rhag 2013, Writing a small nation's past: Wales in comparative perspective, 1850-1950. Evans, N. & Pryce, H. (gol.). Ashgate, t. 49-64
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Pryce, H. (Golygydd) & Evans, N. (Golygydd), 20 Rhag 2013, Farnham: Ashgate. 406 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Pryce, H. & Evans, N., 20 Rhag 2013, Writing a small nation's past: Wales in comparative perspective, 1850-1950. Evans, N. & Pryce, H. (gol.). Ashgate, t. 3-30
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
2012
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., Furchgott, D. (Golygydd), Holmberg, M. (Golygydd), Mullen, A. J. (Golygydd) & Sumner, N. (Golygydd), 1 Ion 2012, Yn: Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium. 31, t. 1-40
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2011
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., Griffiths, R. A. (Golygydd) & Schofield, P. (Golygydd), 1 Ion 2011, Wales and the Welsh in the Middle Ages. 2011 gol. Universiy of Wales Press
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Pryce, H., Edmonds, F. (Golygydd) & Russell, P. (Golygydd), 1 Ion 2011, Tome: Studies in Medieval Celtic History and Law in Honour of Thomas Charles-Edwards. 2011 gol. The Boydell Press, t. 115-124
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2011, University of Wales Press.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2010
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., Williams, D. M. (Golygydd) & Kenyon, J. R. (Golygydd), 1 Ion 2010, The Impact of the Edwardian Castles in Wales.. 2010 gol. Oxbow Books, t. xi
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2010.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur - Cyhoeddwyd
Pryce, H. (Golygydd), 31 Hyd 2010, 2 gol. Universiy of Wales Press. 960 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2009
- Cyhoeddwyd
Pryce, H. & Stafford, P. (Golygydd), 1 Ion 2009, A Companion to the Early Middle Ages: Britain and Ireland c.500-1100. 2009 gol. Wiley-Blackwell, t. 143-159
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 17 Medi 2009, Yn: Proceedings of the British Academy. 161, t. 135-155
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2008
- Cyhoeddwyd
Pryce, H. & Lewis, C. P. (Golygydd), 1 Ion 2008, Anglo-Norman Studies XXX: Proceedings of the Battle Conference 2007. 2008 gol. Boydell Press
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Olson, K. K., Pryce, H., Jenkins, G. (Golygydd) & Jones, G. J. (Golygydd), 1 Ion 2008, Degrees of Influence: A Memorial Volume for Glanmor Williams. 2008 gol. University of Wales Press, t. 30-57
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
2007
- Cyhoeddwyd
Pryce, H. & Jenkins, G. H. (Golygydd), 1 Ion 2007, Cof Cenedl: vol 22. 2007 gol. Gomer Press, t. 1-31
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2007, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Maw 2007, Yn: Archaeologia Cambrensis. 154, 2005, t. 81-95
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Pryce, H. (Golygydd) & Watts, J. (Golygydd), 1 Ion 2007, 2007 gol. Oxford: OUP.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr - Cyhoeddwyd
Pryce, H., Evans, J. W. (Golygydd) & Wooding, J. M. (Golygydd), 1 Ion 2007, St David: Cult: Church and Nation.. 2007 gol. The Boydell Press, t. 305-316
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Pryce, H., Jones, R. W. & Smith, S., 1 Ion 2007, Hughes, Caerdydd.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr - Cyhoeddwyd
Pryce, H. & Watts, J. (Golygydd), 1 Ion 2007, Power and Identity in the Middle Ages: Essays in Memory of Rees Davies.. 2007 gol. Oxford University Press, t. 37-51
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
2006
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2006, Yn: Transactions of the Caernarvonshire Historical Society. 67, t. 12-29
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2005
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., Flanagan, M. T. (Golygydd) & Green, J. (Golygydd), 1 Ion 2005, Charters and Charter Scholarship in Britain and Ireland.. 2005 gol. Palgrave Macmillan, t. 184-202
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2005, Yn: Transactions of the Caernarvonshire Historical Society. 66, t. 14-37
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Pryce, H. (Golygydd), 1 Ion 2005, 2005 gol. University of Wales Press, Cardiff.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Cyhoeddiad Doethurol
2004
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2004, From Medieval to Modern Wales: Historical Essays in Honour of Kenneth O. Morgan and Ralph A. Griffiths.. Davies, R. R. & Jenkins, G. H. (gol.). 2004 gol. University of Wales Press, t. 14-29
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
2003
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2003, From the Vikings to the Normans. Davies, W. (gol.). 2003 gol. Oxford University Press, t. 139-167
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Pryce, H. & Guyotjeannin, O. (Golygydd), 11 Medi 2003.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2003, Regionen Europas- Europa der Regionen: Festschrift für Kurt-ulrich Jäschke zum 65. Geburtstag. Jäschke, K.-U., Thorau, P., Penth, S. & Fuchs, R. (gol.). 2003 gol. µþö³ó±ô²¹³Ü, t. 65-78
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
2002
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2002, England and Europe in the Reign of Henry III (1216–1272). Weiler, B. K. U. & Rowlands, I. W. (gol.). 2002 gol. Ashgate, t. 13-29
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2002, A Companion to Britain in the Later Middle Ages. Rigby, S. H. (gol.). 2002 gol. Blackwells, t. 411-429
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
2001
- Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2001, Yn: English Historical Review. 116, 468, t. 775-801
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2001, The Tempus History of Wales. Morgan, P. (gol.). 2001 gol. NPI Media Group, t. 77-106
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2001, History of Merioneth: The Middle Ages vol 2. Smith, J. B. & Smith, L. B. (gol.). 2001 gol. Univeristy of Wales Press, Cardiff, t. 254-296
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Pryce, H., 1 Ion 2001, Proceedings of the Tenth International Congress of Medieval Canon Law. Pennington, K. (gol.). 2001 gol. Monumenta Iuris Canonici Series C; Subsidia, 11; Biblioteca Apostolica Vaticana, Vatican City, t. 781-797
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
Projectau
-
01/02/2010 – 21/10/2010 (Wedi gorffen)
-
01/09/2008 – 01/03/2013 (Wedi gorffen)