Beth i’w ddisgwyl ym Mangor
Mae’r °Õî³¾ Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma ym Mangor wrth law i gynnig gwybodaeth, ysbrydoliaeth, adnoddau, cyngor ac arweiniad i’n myfyrwyr a’n graddedigion, i helpu i ddatblygu eu cyflogadwyedd a’u hyder, ac i archwilio, mynd ar drywydd a gwireddu eu dyheadau gyrfaol, beth bynnag y bônt !
Mae gan gymuned Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ffocws cryf iawn ar gyflogadwyedd, o’n rhaglenni academaidd i’n clybiau a chymdeithasau, cyfleoedd, digwyddiadau a mentrau. Mae ein tîm yn cefnogi ac yn cydweithredu â staff a myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, cyflogwyr graddedig, entrepreneuriaid, mentoriaid busnes a mudiadau gwirfoddol i enwi ond ychydig!
Gwybodaeth, Adnoddau, Gweithdai a Digwyddiadau
Mae gennym gyfoeth o adnoddau ar ein Hwb Cyflogadwyedd, yn cynnwys gweithdai ar-lein, offer rhyngweithiol, fideos gan fyfyrwyr a chyflogwyr, taflenni a chysylltiadau defnyddiol, yn ogystal â bod yn gartref i’n Gwobr Cyflogadwyedd.
Rydym yn cyflwyno sesiynau gwybodaeth pwnc-benodol yn rhan o’r amserlen academaidd, yn darparu gwybodaeth ac yn cyfeirio at yrfaoedd sy’n berthnasol i’ch pwnc gradd.
Rydym yn cynnal gweithdai a digwyddiadau ar y campws, ac yn rhoi cefnogaeth i’n gwahanol ffeiriau gyrfaoedd ar y campws trwy gydol y flwyddyn.
Cyngor ac Arweiniad
Gall ein Cynghorwyr Cyflogadwyedd ddarparu arweiniad ynglÅ·n a materion megis archwilio gyrfaoedd, ymchwil a rheolaeth, a chynnig cefnogaeth gyda llunio CV ac adborth ar geisiadau, paratoi at gyfweliadau a llawer mwy.
Swyddi a Phrofiad Gwaith
Os ydych yn awyddus i chwilio a gwneud cais am waith rhan amser cyn dod yma i Fangor, gallwch lawrlwytho ein Taflen – Dod o Hyd i Waith Rhan-Amser / Gwyliau.
Gall myfyrwyr a graddedigion ddefnyddio eu cyfrif CyswlltGyrfa i chwilio am waith rhan amser, interniaethau a chyfleoedd profiad gwaith, swyddi lleol, cenedlaethol a thramor i raddedigion, archebu lle ar un o’n gweminarau niferus neu weithdai ar y campws, a threfnu apwyntiadau un-i-un gyda’n Cynghorwyr Cyflogadwyedd profiadol i gael cyfarwyddyd.
Mae ein Cynllun Interniaethau i Israddedigion yn gyfle i bob myfyriwr israddedig wneud cais am interniaeth 80 awr gyda chyflog sy’n cael eu cynnal gan adran / ysgol academaidd yn y Brifysgol – dyma gyfle i ennill profiad gwaith gwerthfawr a magu hyder a meithrin cysylltiadau.
Mae ein staff yn helpu myfyrwyr ddod o hyd i leoliadau rhyngosod a lleoliadau byrrach, os penderfynant gynnwys lleoliad fel rhan o’u rhaglen radd.
Mae ein °Õî³¾ Cefnogi Profiad Gwaith yn cynnig cefnogaeth un-i-un i fyfyrwyr sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth i’w helpu i archwilio, darganfod a chwblhau sesiynau blasu a phrofiad gwaith, gan eu helpu i ddatblygu eu profiad a’u hyder.
Rydym yn annog ac yn galluogi ein myfyrwyr a’n graddedigion i ystyried hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth trwy weithdai, digwyddiadau, cystadlaethau a mentrau, a gallwn gynnig cyngor mentora busnes a chychwyn busnes.
Datblygu a Dathlu Cyflogadwyedd Myfyrwyr
Mae Gwobr Cyflogadwyedd ÑÇÖÞÉ«°É yn ymgorffori cwrs ‘paratoi proffesiynol’ cynhwysfawr, ac yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol o unrhyw weithgareddau allgyrsiol megis gwaith rhan amser, clybiau a chymdeithasau, cynlluniau gwirfoddoli a chymryd rhan mewn digwyddiadau a mentrau eraill.
Danial, a raddiodd yn ddiweddar o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, yn dychwelyd i siarad am ei fywyd ym Mangor ac ar ôl hynny.
Cysylltwch, cadwch mewn cysylltiad!
Gallwch ddilyn yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau a’r hyn rydyn ni’n ei wneud trwy ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gael arddangosiad ar-lein o’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig ac a ddiogelir gan gyfrinair megis yr Hwb Cyflogadwyedd, TARGETconnect ÑÇÖÞÉ«°É a Gwobr Cyflogadwyedd ÑÇÖÞÉ«°É, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych – gallwch gysylltu â ni trwy gyrfaoedd@bangor.ac.uk neu ddilyn a chysylltu â ni ar gryfryngau cymdeithasol:
Facebook: /
Twitter: /
Instagram:
LinkedIn: /
Wedi'i ddiweddaru Awst 2023