Menter a Hunangyflogaeth
Mae B-Fentrus yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau menter neu eu cefnogi i ddechrau busnes newydd.
Mae datblygu eich sgiliau menter yn bwysig, nid yn unig i’r rhai sydd am fod yn hunangyflogedig, ond hefyd i’r rhai sydd mewn cyflogaeth - gan eu helpu i ddatblygu’r hyder ‘gallaf-wneud’, cwestiynu creadigol a pharodrwydd i fentro. Mae’r nodweddion hyn yn cael eu cydnabod fwyfwy gan gyflogwyr wrth iddynt fod yn barod ar gyfer economi sy’n newid yn gyflym ac i alluogi unigolion i reoli ansicrwydd yn y gweithle a phatrymau gwaith a gyrfaoedd hyblyg.
Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth Asiantaeth Sicrhau Ansawdd 2018
Cliciwch ar y delweddau isod i gael gwybodaeth am ein cefnogaeth menter.
I’r rhai sydd â diddordeb mewn Dechrau Busnes
Rydym yn cydweithio â nifer o wahanol bartneriaid i roi cefnogaeth dechrau busnes i raddedigion entrepreneuraidd.
Mae ein darpariaeth yn newid yn rheolaidd felly cysylltwch â ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â gweithgareddau a chyllid.
Mentora busnes un i un
Mae apwyntiadau mentora busnes i un ar gael i raddedigion trwy Syniadau Mawr Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r apwyntiadau yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol ac ar hyn o bryd fe’u darperir trwy lwyfannau rhithiol fel Zoom neu Teams. Os oes gennych syniad ar gyfer dechrau eich busnes eich hun neu fenter gymdeithasol neu os oes angen cymorth arnoch i ddatblygu busnes rydych wedi ei ddechrau’n ddiweddar, cysylltwch â B-Fentrus i drefnu apwyntiad.
Dywedodd 100% o’r ymatebwyr mewn adborth am y cynllun mentora busnes un i un bod y mentor wedi helpu i ddatblygu eu hyder a datblygu eu syniadau.
Gweithdai
Gall graddedigion hefyd gael mynediad at weithdai, rhai a gynhelir yn fewnol, yn benodol i ddechrau busnes neu sgiliau menter cyffredinol a gweithdai a ddarperir gan , yr Hwb Menter ac eraill.
Cliciwch i gael manylion am weithgareddau a gynhelir gan ²¹â€™r .
Cyllid a Man Deori
Mae cyllid a man deori hefyd yn rhan o’n darpariaeth trwy SEA - Santander Enterprise Accelerator, a noddir yn garedig gan Brifysgolion Santander. i gael rhagor o wybodaeth.
Gweithio ar eich liwt eich hun ac Ymgynghoriaeth
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn brifysgol partner i’r IPSE. Yr yw’r ‘Association of Independent professionals and the Self-Employed’. Gall pob un o’n myfyrwyr a’n graddedigion diweddar dderbyn aelodaeth myfyrwyr am ddim o’r IPSE ac mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfoeth o adnoddau sydd ar gael trwy eu gwefan. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb.
Hyrwyddo a Rhwydweithiau
Os ydych wedi graddio o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ac eisoes wedi dechrau eich busnes eich hun yna rhowch wybod i ni gan y byddem yn croesawu’r cyfle i’ch hyrwyddo chi a’ch busnes a’ch cysylltu â’n rhwydweithiau.
Syniadau Mawr Cymru
Mae gan Syniadau Mawr Cymru nifer fawr o wybodaeth a chefnogaeth i raddedigion dan 26 oed sydd â diddordeb mewn dechrau busnes. Cliciwch arwww.bigideaswales.comi weld gwybodaeth ddefnyddiol, straeon sy’n ysbrydoli. A chysylltiadau â’r Hyrwyddwyr Menter ym mhob un o’r sefydliadau.
Mae cysylltiadau defnyddiol eraill yn cynnwys:
I staff
Mae cefnogaeth ar gael i staff Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ddatblygu mentergarwch o fewn y cwricwlwm. Trwy gyllid allanol, cwblhawyd amrywiaeth o brojectau staff.
Cysylltu â ni
Os oes gennych syniad ar gyfer dechrau eich busnes eich hun neu fenter gymdeithasol, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad.
Byddem yn falch iawn o glywed gennych!
Anfonwch e-bost at: b-fentrus@bangor.ac.uk
Caiff Byddwch Fentrus ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru.
Wedi'i ddiweddaru Mehefin 2023