Ms Elen Bonner
Swydd: Ymchwilydd, Tiwtor ac Ymgeisydd PhD.Â
E-bost: emp404@bangor.ac.uk
Rhagolwg
Mae Elen Bonner yn Ymchwilydd Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É gydag arbenigedd penodol mewn astudio’r berthynas rhwng yr economi, mudo a’r Gymraeg. Mae hi’n ddeiliad Ysgoloriaeth Martin Rhisiart drwy law'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel rhan o’i gwaith doethuriaeth cynhaliodd adolygiad systematig o’r hyn sy’n wybyddus am ddylanwad gwahanol ddimensiynau o’r economi ar y Gymraeg ynghyd a datblygu teipoleg unigryw sy’n cyfleu’r hyn sy’n gyrru penderfyniadau siaradwyr yr iaith mewn perthynas â mudo. Dyma’r adolygiad llenyddol mwyaf cyfredol a chynhwysfawr ar ddylanwad yr economi ar y Gymraeg.
Mae hi wedi cyflwyno ei gwaith i fforymau amrywiol gan gynnwys ‘Rhwydiaith’, sef rhwydwaith sy’n cael ei gydlynu gan Gymdeithas Llywodraethau Leol Cymru ar gyfer swyddogion iaith, yn ogystal â chyfrannu tuag at gyfarfodydd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac Arfor.
Yn ddiweddar, mae Elen wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd ymchwil ar brosiectau sy’n archwilio i ddefnydd cymunedol o’r Gymraeg a dylanwad y sector dwristiaeth ar iaith. Mae hyn, ynghyd â’i phrofiad fel myfyriwr PhD, wedi meithrin sgiliau ymchwilio cryf gan gynnwys archwilio llenyddiaeth, creu offer ymchwil, casglu a dadansoddi data ansoddol a chyflwyno gwaith ymchwil i gynulleidfaoedd amrywiol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel ymchwilydd ar brosiect a gyllidwyd drwy Gronfa Her Arfor sy’n mynd i'r afael â’r her o recriwtio staff dwyieithog.
Cyfranna Elen i arlwy dysgu’r Brifysgol fel tiwtor Cymdeithaseg cyfrwng Cymraeg ac mae'n Ddarlithydd Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.Â
Cymwysterau
- Tystysgrif Ôl-radd mewn Dulliau Ymchwil
2021 - MA: Datblygu Cymuned
2017 - BA: Celf Gain
University College for the Creative Arts, 2006
Addysgu ac Arolygiaeth
Is-raddedig
SCS1004 - Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes
SCU2001 - Dulliau Ymchwil
SCS3010 - Hawliau IeithyddolÂ
SCU1006 - Rhaniadau Cymdeithasol
Cyhoeddiadau
2024
- Cyhoeddwyd
Bonner, E., 1 Meh 2024
Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe - E-gyhoeddi cyn argraffu
Bonner, E., Prys, C., Mitchelmore, S. & Hodges, R., 21 Maw 2024, (E-gyhoeddi cyn argraffu) Yn: Journal of Multilingual and Multicultural Development. 17 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Bonner, E. (Arall), 17 Gorff 2024
Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe - Cyhoeddwyd
Bonner, E., Prys, C., Hodges, R. & Mitchelmore, S., 7 Awst 2024, Yn: Current issues in language planning. 25, 4, t. 394-415 22 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2023
- Cyhoeddwyd
Hodges, R., Prys, C., Bonner, E. (Cyfrannwr), Orrell, A. (Cyfrannwr) & Gruffydd, I. (Cyfrannwr), 28 Gorff 2023, 85 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad Comisiwn
Gweithgareddau
2024
Digwyddiad ar-lein a drefnwyd gan brosiect Arfor i rannu arfer da ac ymchwil ynghylch mudo bobl ifanc. Ymhlith y siaradwyr roedd: Dorthe Frydendahl, Ringkøbing-Skjern, Denmarc; Donald Weir, Ucheldiroedd ac Ynysoedd, Alban; Elen Bonner, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É; Huw Lewis, Prifysgol Aberystwyth; Jade Owen, Menter Môn.
6 Medi 2024
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)Digwyddiad Arfor yn yr Eisteddfod yn trafod gweithleoedd Cymraeg.
Aelodau'r panel:
Elen Bonner, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É;
Catrin Llwyd, Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant;
Dr Arwel Williams, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.
Cadeirydd: Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant.
9 Awst 2024
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)Sesiwn dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod yn trafod canfyddiadau gwerthuso rhaglen Arfor sy’n defnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a chamau nesaf agenda economaidd i gefnogi’r iaith Gymraeg yng Nghymru.
Aelodau’r Panel
Elen Bonner, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É;
Adam Price, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr;
LlÅ·r Roberts, Mentera;
Ioan Teifi, Wavehill.
Cadeirydd: Dr Elin Royles, Prifysgol Aberystwyth
9 Awst 2024
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)Cyflwyniad: Deall penderfyniadau mudo siaradwyr Cymraeg: Pam teipoleg?
10 Gorff 2024
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)Siaradwr gwadd i roi cyflwyniad yng Nghynhadledd Athrawon ac Ymgynghorwyr Bagloriaeth Cymru a drefnwyd gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Roedd y cyflwyniad yn cyfeirio at 'Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg' a grëwyd gan Dr Rhian Hodges a Dr Cyngor Prys gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
5 Gorff 2024
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)Cyfres o weithdai cyd-gynhyrchu gyda chyflogwyr y sector gyhoeddus, breifat a'r drydydd sector o siroedd Ceredigion, Sir Gâr, Gwynedd a Môn yn trafod heriau ac arfer da wrth recriwtio gweithlu â sgiliau yn y Gymraeg. Fel rhan o brosiect a gyllidwyd gan Gronfa Her Arfor.
Gorff 2024 – Medi 2024
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr)
2023
Cyflwyniad gyda Dr Cynog Prys, Dr Rhian Hodges a Llywela Owain ym Mhrifysgol Gwlad y Basg.
8 Tach 2023
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)Fe wnaeth y ddigwyddiad trafod ymchwil cyfoes o Gymru ar bwnc allfudo ac ystyried ei berthnasedd i waith rhaglen ARFOR II. Cafwyd cyflwyniadau gan Dr Huw Lloyd-Williams (Wavehill), yr Athro Mike Woods (Prifysgol Aberystwyth), Elen Bonner (Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É) a’r Dr Lowri Cunnington Wynn (Prifysgol Aberystwyth).
3 Tach 2023
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)Cyflwyniad mewn digwyddiad dan arweiniad Arfor yn y Sioe Frenhinol a fynychwyd gan Jeremy Miles, AS.
26 Gorff 2023
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)Cyflwyniad: 'Aros, gadael neu ddychwelyd: Teipoleg o benderfyniadau mudo siaradwyr Cymraeg'.
29 Meh 2023
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
2022
Cyflwyniad: 'Dylanwad polisiau, gweithgareddau a thueddiadau economaidd ar y Gymraeg'.
30 Meh 2022
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)Cyflwyniad: 'Dylanwad yr economi ar y Gymraeg'.
24 Meh 2022
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)