Cerdded
Ar y tudalen we yma ceir rhai llwybrau o wahanol fannau ar safleoedd ÑÇÖÞÉ«°É a Porthaethwy a hefyd rhai llwybrau hanesyddol i chi ddod i adnabod yr ardal. Yn y dyfodol rydym yn gobeithio cynnig llwybrau o’n holl safleoedd ni i staff eu mwynhau.
Yn hytrach na chymryd eich car i gyfarfodydd mewn rhannau eraill o'r campws, a ydych wedi ystyried gadael y 10-15 munud ychwanegol i fynd am dro braf neu seiclo yn lle hynny? Rhan fwyaf o'r amser rydych yn treulio 5 munud yn chwilio am le parcio beth bynnag!
I gael amrywiaeth o lwybrau o le rydych yn byw neu gampws Wrecsam ewch i’r tudalen yma. Mae yna ddewis o lwybrau o fynyddoedd Eryri, Penrhyn Llŷn, Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Chyngor Conwy.
Cyn dechrau allan gwell edrych ar y tywydd!!!
Eryri Ramblers
Mae cerdded yn ffordd wych o gadw'n heini ac mae'r Cerddwyr yn ffordd wych o gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd wrth gerdded. Croeso i bawb i ddod draw. Unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Chris ar 01248 382413.
Cerdded Conwy Walks
Mae Cerdded Conwy yn grŵp annibynnol, nid er elw o Arweinwyr Teithiau Cerdded Gwirfoddol sy’n llunio rhaglenni cerdded tymhorol gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Gŵyl Gerdded Barmouth
Mae Gŵyl Gerdded yn cymryd lle o diwedd mis Medi fel arfer. Mae'r Ŵyl Gerdded yn ddigwyddiad a sefydlwyd i fanteisio ar y teithiau cerdded gwych a thirwedd ddramatig sydd ar gael o'r Bermo, ar arfordir gorllewinol Cymru.