Cerdded i Iechyd a Hamdden
Wrth gerdded y camau dyddiol a argymhellir, 10,000 cam y diwrnod (o gwmpas 5 milltir), rydych yn gallu cael calon iach a lleihau’r braster ar eich corff. Mae cerdded hefyd yn gallu cryfhau’ch cyhyrau, rhoi hwb i’ch metabolaeth, lleddfu straen, codi lefelau egni a’ch helpu i gysgu’n well. Y peth gwych am gerdded yw ei bod yn hawdd ei ffitio mewn i’ch amserlen ddyddiol ac mae am ddim, felly pam nad ewch chi allan a mwynhau’r awyr iach a’r golygfeydd prydferth sydd i’w gweld yn ein hardal.
Isod yw rhai llwybrau o wahanol fannau ar safleoedd ÑÇÖÞÉ«°É a Porthaethwy a hefyd rhai llwybrau hanesyddol i chi ddod i adnabod yr ardal. Yn y dyfodol rydym yn gobeithio cynnig llwybrau o’n holl safleoedd ni i staff eu mwynhau.
- ÑÇÖÞÉ«°É - o Safle Ffordd Deiniol
- ÑÇÖÞÉ«°É - o Safle Ffordd y Coleg
- ÑÇÖÞÉ«°É - o Safle Normal
- Porthaethwy
I gael amrywiaeth o lwybrau o le rydych yn byw neu gampws Wrecsam ewch i’r linc yma. Mae yna ddewis o lwybrau o fynyddoedd Eryri, Penrhyn Llŷn, Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Chyngor Conwy.
Taith Hanesyddol 1 – Tua 45-50 munud efo cyflymdra bywiog (2.09 milltir) efo darnau o hanes yn y gwersyll Rhufeinig, pier, llety Telford, porth a chylch cerrig (PDF 308KB)
Taith Hanesyddol 2 – Tua 35-40 munud efo cyflymdra bywiog (1.68 milltir) efo darnau o hanes yn y bont coffa, neuadd cyngor, eglwys gadeiriol, tafarn a gorsaf rheilffordd (PDF 375KB)
ÑÇÖÞÉ«°É - o Safle Ffordd Deiniol
Taith tua 15 munud – 1,800 cam – 0.78 milltir
Os ydych yn wneud y daith yma fyddech wedi cwblhau 18% o'r camau beunyddiol argymelledig
Taith gylchol o Adeilad Deiniol i fyny Allt Glanrafon, sy'n dod allan yn Morrisons, ac wedyn i lawr Lon Caergybi ac yn ôl i Adeilad Deiniol
Mae'r daith yma yn saff efo palmant, ychydig o lonydd i groesi ac un allt i gerdded i fyny
Taith tua 35 munud – 4,100 cam – 1.74 milltir
Os ydych yn wneud y daith yma fyddech wedi cwblhau 41% o'r camau beunyddiol argymelledig
O Adeilad Deiniol i Bier ÑÇÖÞÉ«°É ac yn ol
Mae'r daith yma lefal efo palmant ac ychydig o lonydd i groesi
Taith tua 18 munud – 2,100 cam – 0.91 milltir
Os ydych yn wneud y daith yma fyddech wedi cwblhau 21% o'r camau beunyddiol argymelledig
Taith gylchol o Adeilad Deiniol i Stryd y Deon ac yn ol
Mae'r daith yma yn saff efo palmant ac ychydig o lonydd i groesi
Taith tua 45 munud – 4,900 cam – 2.05 milltir
Os ydych yn wneud y daith yma fyddech wedi cwblhau 49% o'r camau beunyddiol argymelledig
Taith gylchol o Adeilad Deiniol i fyny Lon Farrar ac allan i'r Stryd Fawr. Yn cerdded tuag at ganol y dref heibio'r eglwysi, cymryd y llwybr troed wedi ei farcio i mewn i'r goedwig a dilyn y llwybr i fynnu’r allt i'r lon. Troi i'r chwith ac eto i'r chwith ar y lon, yn cerdded heibio'r hen ysbyty. Cymryd y troad chwith nesaf, sydd yn cymryd chi heibio'r cwrs golff i St. Mary's. Mae'r lon wedyn yn dilyn i lawr i'r Stryd Fawr, ac wedyn yn torri trwy'r meysydd parcio at Adeilad Deiniol
Mae'r daith yma yn fryniog, heb balmant, a dylech dim ond eu gwneud yn ystod tywydd sych, efo esgidiau cerdded da
** Achos mae'r daith yma yn cymryd chi trwy ardal goediog ddistaw, dydyn ddim yn awgrymu bod chi'n mynd ar ei ben eich hun **
ÑÇÖÞÉ«°É - o Safle Ffordd y Coleg
Taith tua 28 munud - 3,200 cam - 1.33 milltir
Os ydych yn wneud y daith yma fyddech wedi cwblhau 32% o'r camau beunyddiol argymelledig
Taith gylchol o'r Prif Adeilad, i lawr Lon Garth Uchaf am y Pier, ar hyd Lôn Siliwen ac i fyny yn ol i'r Prif Adeilad o Lon Menai trwy'r llwybr ar ochr Hen Goleg
Mae'r daith yma yn saff efo palmant ac ychydig o lonydd i groesi
Taith tua 12 munud – 1,450 cam – 0.62 milltir
Os ydych yn wneud y daith yma fyddech wedi cwblhau 14.5% o'r camau beunyddiol argymelledig
Taith gylchol o'r Prif Adeilad, ar hyd Ffordd y Coleg, i lawr Lon Craig y Don ac ar draws y lon i ddilyn cylch o gwmpas Lôn Hwfa heibio'r cyrtiau tenis ac i fyny yn ol i'r Prif Adeilad o Lon Menai trwy'r llwybr ar ochr Hen Goleg
Mae'r daith yma yn saff efo palmant a 2 lon i groesi efo llethr byr yn y diwedd
Taith olygfaol o Safle Normal i'r Gerddi Botaneg Treborth lle mae amrywiaeth o fflora brodorol ynghyd ag amrywiaeth o blanhigion gwyllt a thrin o dros y byd i weld. I ddarganfod mwy am yr ardd botaneg, cliciwch ar y ddolen hon:
Gerddi Botaneg Treborth
Taith: Fflat
Pellter: 1.8 milltir/ 2.89 km
Amser: ~ 36 munud
Camau: 3600
Taith olygfaol a hanesyddol o Safle Normal, dros Bont Telford i Sir Fon. Mae'r daith yma yn dilyn y Rhodfa Gwlad Belg, a adeiladwyd gan filwyr Gwlad Belg yn ystod y Rhyfel Gyntaf, sy'n arwain i Ynys Tysilio lle mae Eglwys Tysilio wedi eu lleoli
Taith Ynys
Dysilio
Taith: Eithaf fflat
Pellter: 2.06 milltir/ 3.3 km
Amser: ~ 40 munud
Camau: 4012
Taith tua 30 munud - 3,260 cam - 1.36 milltir
Os ydych yn wneud y daith yma fyddech wedi cwblhau 33% o'r camau beunyddiol argymelledig
Taith gylchol o Wyddorau Eigion, yn troi i'r dde ac allan i'r Stryd Fawr o Ffordd y Coleg, ar hyd y lon yma, sy'n troi i Lon Cadnant. Jyst cyn croesi'r bont fach cymryd troad i'r chwith ac wedyn i'r chwith eto yn mynd yn ol ar eich hun ar hyd y llwybr trwy'r ardal coedwig. Cario mlaen ar y llwybr, yn mynd i'r Orchard, ac wedyn i mewn i Lon Las tan y diwedd yn Stryd yr Allt. Parhau i lawr Stryd yr Allt yn cymryd y trydydd troad ar y chwith i Stryd y Ffynnon, ac wedyn chwith eto i Ffordd Coroniad, i ddod allan yn y Stryd Fawr eto
Mae'r daith yma yn saff efo palmant ac ychydig o lonydd i groesi
Taith tua 33 munud - 3,600 cam - 1.5 milltir
Os ydych yn wneud y daith yma fyddech wedi cwblhau 36% o'r camau beunyddiol argymelledig
Taith gylchol o Wyddorau Eigion, yn mynd i lawr a throi i'r dde yn y gwaelod i fynd ar hyd Ffordd Cynan, yn cario blaen ar hyn Ffordd Dwr a Lon Cei Bont. Ar ol mynd o dan y bont parhau ar y llwybr tan rydych yn cyrraedd y sarn, fedrwch gymryd opsiwn o gylchdaith o gwmpas Ynys Tysilio yn fan hyn, neu droi i'r dde ar hyd y llwybr trwy'r ardal coedwig tan rydych yn cyrraedd Ffordd Mona. Croesi'r lon a chymryd y llwybr sy'n arwain dros y parc sy'n dod allan yn yr orsaf bws. O fan hyn parhewch am y Ffordd Fawr ac yn ol i Wyddorau Eigion
Mae'r daith yma yn saff yn ystod oriau golau, efo ychydig o lonydd i groesi, fedr rhai llwybrau fod yn fwdlyd
Mapiau wedi atgynhyrchu gan