Newyddion: Gorffennaf 2016
Llwyddo yn y diwydiant niwclear
Yn ddiweddar mae dau fyfyriwr Prifysgol 亚洲色吧 o Ogledd Cymru wedi cymryd camau breision at wireddu eu huchelgais o ddilyn gyrfa yn y diwydiant niwclear. Mae Lara Pritchard o Ddinbych, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau blwyddyn olaf ei gradd Daearyddiaeth , wedi cael cynnig swydd ddisglair i raddedigion gyda Horizon Nuclear Power a bydd yn dechrau yno ym mis Medi. Bydd Ilan Davies o'r Bala, a fydd yn dechrau ar flwyddyn olaf ei gwrs Meistr Peiriannu Electronig pedair blynedd ym mis Medi, yn un o bump intern o'r Deyrnas Unedig a gaiff gyfle i weithio yn ninas Hitachi yn Japan am dri mis gyda Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2016