Cynhadledd Ymchwil y Gwanwyn, Coleg Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas - Galwad am bapurau
Rydym yn gwahodd i gyd o 么l-raddedigion ymchwil yn y Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas i gyflwyno crynodeb ar gyfer cynhadledd y gwanwyn blwyddyn yma. Bydd hwn yn digwydd ar yr 2il o Ebrill 2025 12:00-18:00 yn ystafelloedd darlith 4 a 5. Mae croeso i bapurau ar unrhyw bwnc cael ei chyflwyno, felly mae hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr ymarfer eu sgiliau cyflwyno i baratoi at adolygiadau cynnydd blynyddol.
Mae gofyn i grynodebau fod dim hirach na 350 o eiriau ac iddyn nhw gael ei gyrru ddim hwyrach na 17:00 ar yr 28ain o Chwefror.
Bydd cyflwyniadau angen bod ddim mwy na 20 munud gyda 10 munud wedi gosod ar gyfer cwestiynau ar 么l y cyflwyniad sydd yn golygu fod gan bob dirprwy slot 30 munud. Mae fformat PowerPoint yn well, ond mi fydd cyflwyniadau Google Slides a Keynote hefyd yn cael ei dderbyn. Bydd copi terfynol o鈥檙 cyflwyniad angen cael ei gyrru i e-bost y gynhadledd wythnos cyn y gynhadledd ar yr hwyraf.
Mae hyn yn gyfle gwych ar gyfer myfyrwyr 么l radd ar hyd y coleg dod at ei gilydd i siarad am ei ymchwil. Mae鈥檙 ddiwrnod o hyd yn un i fwynhau a hefyd yn addysgiadol ac rydym yn gobeithio gweld cymaint yna ag sy鈥檔 bosib. Mae鈥檙 gynhadledd yma wedi ei threfnu gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr, felly mae croeso i chi dod i fwynhau鈥檙 prynhawn.
Os oes unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi cysylltu trwy鈥檙 e-bost yma:聽cahss.pgr.conference@bangor.ac.uk