Cylchlythyr PhD Cymru
Cylchlythyr Mai 2022
Cynhadledd Galluoedd a Gyrfaoedd PHD Cymru 2022
Diolch i bawb a gyfrannodd at Gynhadledd Galluoedd a Gyrfaoedd flynyddol PHD Cymru, a gynhaliwyd ar 27 a 28 Ebrill.听 Roedd y digwyddiad, a oedd yn canolbwyntio ar Ddulliau ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol Beirniadol, yn cynnwys cyfraniadau bywiog gan academyddion a myfyrwyr doethurol ar bynciau'n cynnwys hil, rhyw a rhywioldeb, anabledd, iechyd plant ac anghydraddoldeb addysgol.听 Gwnaeth y sesiwn gyffredinol EDI, dan arweiniad myfyrwyr PHD (Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg,Prifysgol Caerdydd) a (Seicoleg, Prifysgol 亚洲色吧), gasglu adborth defnyddiol a fydd yn bwydo i mewn i waith y PHD yn y dyfodol ar EDI.
Cyhoeddi Academaidd a Mynediad Agored
Mae PHD Cymru yn cynnig sesiwn hyfforddi ar-lein ar gyhoeddi academaidd a mynediad agored, ar 8 Mehefin.听 Yn ystod y sesiwn hon, bydd cyfranogwyr yn clywed gan Dr Charalampos Efstathopoulos (golygydd cyfnodolion), Joey Soehardjojo (un o gyn-Gymrodyr 脭l-ddoethurol PHD Cymru ESRC), Dr Lizzie Brophy (Cyhoeddwr, WILEY) a Helen Sharp (Swyddog Cyhoeddi, Prifysgol Caerdydd) yn s么n am ysgrifennu erthygl a sut i鈥檞 chyhoeddi. Byddant hefyd yn rhoi gwybod sut i ddod o hyd i gyfnodolyn, yn esbonio鈥檙 broses adolygu gan gymheiriaid ac yn rhoi鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf am Fynediad Agored. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau i'r panel o arbenigwyr.听 Mae鈥檙 digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i holl fyfyrwyr PHD Cymru ESRC.听 I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, .
Grantiau Bach PHD Cymru
Ddwywaith y flwyddyn rydym ni'n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr PHD Cymru a ariennir gan yr ESRC a'u goruchwylwyr am gyllid (hyd at 拢1,000 fesul cais) o dan ein cynlluniau Grantiau Bach.听 Gellir defnyddio'r grantiau hyn i gefnogi gweithgareddau fel cyfnewid gwybodaeth, ymgysylltu 芒'r cyhoedd, cynnal digwyddiadau rhyngddisgyblaethol neu ddigwyddiadau adeiladu carfanau o fewn llwybr PHD neu glwstwr o lwybrau.听 Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ar 1 Mehefin.听 Mae rhagor o wybodaeth a ffurflen gais ar gael .
Darllen Mwy:
- Adroddiad Myfyrwyr PHD Cymru ar Ddysgu Iaith
- Ysgol Aeaf CCRI
- Gwaith Maes Ar-lein mewn Ardaloedd yr Effeithir arnynt gan Wrthdaro
- Ysgol Haf ACCESS
听