Academyddion Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon Ymysg Gwyddonwyr Mwyaf Dylanwadol y Byd
Mae pum academydd o Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon Prifysgol 亚洲色吧 wedi cael eu cydnabod ymysg 2% uchaf y gwyddonwyr mwyaf dylanwadol yn y byd, yn 么l Diweddariad diweddaraf Elsevier Data Repository ar gyfer yr "Updated Science-Wide Author Databases of Standardised Citation Indicators."
Mae'r tabl cynghrair byd-eang, mawreddog hwn, sy'n gweithredu fel "bwrdd sgorio" i wyddonwyr, yn gwerthuso ymchwilwyr yn seiliedig ar ba mor aml y mae pobl eraill yn dyfynnu eu gwaith, eu r么l mewn ymchwil, a'u cynhyrchedd.
Mae'r tabl yn rhychwantu 22 maes a 174 o is-faesau, ac mae鈥檔 cynnwys y 100,000 o wyddonwyr gorau, neu'r rhai yn y 2% uchaf yn 么l sg么r cydnabyddiaeth (c-sg么r). Mae'n cynnwys dau fath o gydnabyddiaeth: effaith gydol gyrfa ac effaith un flwyddyn (ymchwil diweddar).
Mae鈥檙 academyddion sy鈥檔 cael eu cydnabod o鈥檙 Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon wedi鈥檜 hanrhydeddu am eu cyfraniadau rhagorol i seicoleg a gwyddor chwaraeon, sy鈥檔 cynnwys:
(O'r chwith i'r dde) Yr Athro Paul Downing, yr Athro James Hardy, yr Athro Paul Mullins, yr Athro Robert Rogers a'r Athro Guillaume Thierry.

Yn nodedig, cafodd Yr Athro Downing, Yr Athro Rogers, a鈥檙 Athro Thierry eu cydnabod am eu dylanwad dros gwrs eu gyrfaoedd, ac roedd Yr Athro Downing, Dr Mullins, a Dr Hardy yn sefyll allan am eu heffaith ymchwil ddiweddar yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r cyrhaeddiad hwn yn tanlinellu r么l ganolog Prifysgol 亚洲色吧 wrth hyrwyddo gwybodaeth wyddonol, ac yn amlygu ei heffaith ymchwil fyd-eang.