Ystyr Bywyd (a Geiriau Eraill): Sut Mae鈥檙 Ymennydd yn Dysgu ac yn Storio Cysyniadau?
Darganfod y Meddwl Dynol: Cyfres Gweminar Seicoleg
Mae鈥檙 ymennydd yn storio cyfoeth o wybodaeth am ystyr pethau, gan gynnwys gwrthrychau (e.e. beth yw pwrpas bwrdd?), pobl (sut mae heddwas yn debygol o ymddwyn?) a geiriau (beth yw ystyr bywyd?). Mae ystyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac os collwn ein gafael ar ystyr (e.e., oherwydd dementia) mae effeithiau dinistriol i hynny. Ers Socrates, mae ysgolheigion wedi pendroni yngl欧n 芒 sut rydyn ni'n dysgu ystyr a heddiw mae niwrowyddonwyr yn mynd i'r afael 芒 sut mae'n cael ei gynrychioli yn yr ymennydd. Ymunwch 芒 gweminar Prifysgol 亚洲色吧 i ddysgu am y ffyrdd y mae gwyddoniaeth wybyddol a niwroseicoleg wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth o agwedd hynod ddiddorol ar y meddwl dynol.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd听yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno 芒 thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu 芒 ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn 么l neu newid eich dewisiadau cydsyniad.听
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o听Gyfres Gweminarau Seicoleg ym Mangor.
Siaradwr
Dr Richard Binney 听
Mae Richard yn cynnal ymchwil i ble a sut mae鈥檙 ymennydd dynol yn storio ac yn gwneud defnydd hyblyg ar yr wybodaeth sydd gennym am bobl, gwrthrychau, a geiriau (mewn geiriau eraill, y cof semantig). I wneud hynny, mae'n defnyddio dull lluosog sy'n cynnwys mesurau sy鈥檔 ymwneud ag ymddygiad (e.e., cywirdeb ac amserau adweithio), delweddu'r ymennydd ac ysgogiad anfewnwthiol i鈥檙 ymennydd. Yn ogystal, mae ei ymchwil yn ceisio datblygu ein dealltwriaeth o namau ieithyddol ac ymddygiadol sy鈥檔 deillio o anafiadau i鈥檙 ymennydd a dementia, a defnyddio canfyddiadau ymchwil i helpu pobl reoli eu hanableddau iaith a鈥檜 hanawsterau cymdeithasol.