Cerddoriaeth a'r Meddwl
Darganfod y Meddwl Dynol: Cyfres Gweminar Seicoleg
Ydych chi erioed wedi meddwl pam y gall c芒n newid eich hwyliau?
Yn y gweminar hwn, byddwn yn archwilio seicoleg cerddoriaeth. Dechreuwn drwy drafod yn fyr ddamcaniaethau esblygiadol am ganfyddiad cerddoriaeth, cyn edrych ar ffactorau a all ddylanwadu ar ein gwerthfawrogiad o gerddoriaeth. Er enghraifft, byddwn yn ystyried sut y gall gwahaniaethau diwylliannol, gwahaniaethau unigol, a ffactorau cyd-destunol ddylanwadu ar ein gwerthfawrogiad a鈥檔 mwynhad o gerddoriaeth. Yn olaf, byddwn yn adolygu ymchwil ar fuddion therapiwtig cerddoriaeth.
Gellir gweld ein Hysbysiadau Preifatrwydd聽yma. Drwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru hon rydych yn cytuno 芒 thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Gallwch gysylltu 芒 ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch caniat芒d yn 么l neu newid eich dewisiadau caniat芒d.聽
Cyflwynir y seminar hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
厂颈补谤补诲飞谤听
Dr Awel Vaughan-Evans
Mae Awel yn Ddarllenydd mewn seicoleg yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, ac felly'n cyflawni nifer o ddyletswyddau addysgol a gweinyddol gwahanol. Mae hi鈥檔 drefnydd ar ddau fodiwl dulliau ymchwil, yn drefnydd ar fodiwl yn y drydedd flwyddyn sy鈥檔 ymdrin 芒鈥檙 pwnc cyd-ddisgyblaethol o Niwroestheteg, ac yn arwain ar fodiwlau traethawd hir seicoleg. Mae'r holl fodiwlau hyn yn cael eu cynnig yn Gymraeg a Saesneg.聽
Ar hyn o bryd, mae Awel yn goruchwylio nifer o brosiectau ymchwil israddedig sy'n ymwneud 芒'r pynciau eang o ddwyieithrwydd, defnydd iaith, a dysgu iaith.聽
Mae ymchwil Awel yn canolbwyntio ar ddwyieithrwydd. Yn benodol, mae ei hymchwil yn edrych ar sut all ieithoedd ryngweithio yn yr ymennydd, ac mae hi鈥檔 defnyddio nifer o ddulliau ymchwil niwrowyddonol (gan gynnwys tracio llygaid ac ERPs) i gyflawni hyn. Yn ogystal 芒 hyn, mae Awel wedi dechrau ymchwilio i sut y caiff gerddoriaeth a cherddi eu canfod.聽