Mae ymchwil a wneir yng Nghanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar wedi darganfod fod Therapi Gwybyddol wedi'i seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (Mindfulness- Based Cognitive Therapy - MBCT) yn chwarae rhan sylweddol, nid yn unig wrth atal pyliau pellach o iselder, ond hefyd gyda gwella lles yn gyffredinol.
Mae MBCT yn integreiddio lleihau straen yn seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar gydag elfennau o therapi ymddygiad gwybyddol. Cafodd ei ddatblygu ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn dilyn ymchwil drawsfudol ar y dulliau o gwympo drachefn i iselder.
Mae ymchwil Prifysgol 亚洲色吧 yn y maes hwn wedi effeithio'n uniongyrchol ar roi tystiolaeth yn seiliedig ar MBCT ar waith mewn lleoliadau ymarferol yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, fel bod cleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a llunwyr polis茂au yn elwa ohono.
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) wedi argymell eu dull hwy fel rhaglen atal iselder effeithiol. Awgrymodd profion dilynol fod y dull yn gostwng graddau'r pyliau pellach o iselder yn sylweddol ac yn gyson o'i gymharu 芒 dulliau gofal eraill.
Ers 2008, mae'r Ganolfan wedi cyflwyno cyrsiau MBCT i dros 1500 o aelodau'r cyhoedd, ac wedi hyfforddi dros 1300 o weithwyr proffesiynol i gyflwyno MBCT yn y GIG ac mewn cyd destunau eraill, yn ogystal 芒 chefnogi sefydlu rhwydwaith o weithwyr proffesiynol MBCT medrus ledled y DU.