Rwyf wedi gwirioni bod fy ngwaith yn parhau i gael ei ddyfynnu鈥檔 aml ac yn parhau鈥檔 ddylanwadol iawn. Yn gynyddol, mae cyllidwyr ymchwil eisiau gweld eu bod wedi cyllido ymchwil sy鈥檔 cael effaith ac sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn, ac mae gwobr Clarivate yn darparu tystiolaeth dda i gefnogi鈥檙 nod hwnnw.
Mae鈥檔 fraint cael fy nghynnwys eleni yn rhestr Clarivate o Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf. Rydym yn cael budd o weithio o fewn amgylchedd prifysgol sy鈥檔 cefnogi ac annog ymchwil a chydweithio o fewn gwlad fechan ond blaengar iawn. Mae cael fy nghynnwys ar y rhestr yn dangos sut mae ein hymchwil cydweithredol yn dylanwadu ar wybodaeth yn fyd-eang, yn ogystal 芒 dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws Cymru.
Mae ymddangos ymysg rhestr Clarivate o Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf yn adlewyrchu ymroddiad y technegwyr, myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr 么l-ddoethurol sydd wedi gweithio gyda mi i gynhyrchu ystod eang o gynnyrch ymchwil gydag effaith ystyrlon. Mae hon yn Wobr i鈥檙 t卯m cyfan.
Rwyf wrth fy modd cael fy nghynnwys eleni yn y rhestr o Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf. Mae鈥檔 cymryd sawl ymennydd i gynllunio, cynhyrchu a chyhoeddi papur ymchwil sy鈥檔 cael effaith ac mae cael fy nghynnwys yn y rhestr yn glod i鈥檙 gwaith a wneir gan y t卯m iechyd cyhoeddus cyfan. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd gwybod bod ein gwaith yn cael ei ddefnyddio gan ein cyd-ymchwilwyr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a gan lunwyr polisi鈥檔 ysgogi pob un ohonynt i wneud gwaith sy鈥檔 cael hyd yn oed mwy o effaith.
Portreadau
Yr Athro Jane Noyes
Fel Nyrs Gofrestredig a Nyrs Plant Gofrestredig, mae鈥檙 Athro Jane Noyes yn un o nifer fechan iawn o nyrsys ym Mhrydain sydd wedi鈥檜 derbyn yn Gymrawd Academi Nyrsio America. Mae Jane wedi datblygu enw da yn fyd eang mewn ymchwil gofal plant. Mae'n fwyaf adnabyddus fel arweinydd hir sefydlog gr诺p Cochrane o fethodolegwyr o fri rhyngwladol sydd wedi gwneud gwaith arloesol i ddatblygu ac egluro'r dulliau o syntheseiddio tystiolaeth ansoddol a dulliau cymysg i lywio'r broses o wneud penderfyniadau clinigol.聽 Mae gr诺p Cochrane yn arweinydd byd-eang ar gynhyrchu adolygiadau o dystiolaeth ddibynadwy gan ddefnyddio dulliau trylwyr i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.聽 Yn aml mae sefydliadau byd-eang megis Sefydliad Iechyd y Byd a gwahanol asiantaethau Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn galw ar Jane i gynghori ar ddulliau synthesis tystiolaeth a'u cymhwyso yn y broses o wneud penderfyniadau.
Yr Athro Karen Hughes
Mae鈥檙 Athro Karen Hughes yn Rheolwr Datblygu Ymchwil a Chapasiti (Projectau Arbennig) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Hi sy鈥檔 arwain yr Uned Cydweithio Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol 亚洲色吧, sef uned ymchwil cymhwysol rhwng y Brifysgol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan Karen bortffolio ymchwil eang a diddordeb penodol mewn atal trais, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, defnydd o alcohol ac iechyd bywyd y nos. Mae ei gwaith yn cynnwys rhoi astudiaethau poblogaeth cenedlaethol ar waith, gwneud astudiaethau ymchwil gwreiddiol ac adolygiadau llenyddiaeth systemaidd a gwerthuso ymyraethau. Mae Karen yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd i gefnogi鈥檜 rhaglen atal ac ymateb i drais ac mae wedi cyhoeddi ystod eang bapurau academaidd ac adroddiadau cenedlaethol a rhyngwladol sy鈥檔 cyfrannu at ddatblygiad polisi ac ymarfer iechyd cyhoeddus.
Yr Athro Davey Jones
Ffocws gwaith ymchwil yr Athro Davey Jones yw cloriannu gwasanaethau ecosystem a gwarchod iechyd dynol. I鈥檙 perwyl hyn, mae鈥檔 cydweithio efo diwydiant i gyflwyno datrysiadau unigryw ar gyfer problemau amgylcheddol a gwella cynaliadwyedd.聽Ar ddechrau COVID-19 sylweddolodd fod modd defnyddio technegau oedd wedi鈥檜 datblygu鈥檔 barod i fonitro lefelau COVID-19聽 mewn systemau d诺r gwastraff. Mae鈥檙 projectau cyfredol yn cynnwys rhaglen gwyliadwriaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol ar sail d诺r gwastraff a gyllidir gan Lywodraeth Cymru. Mae鈥檔 cynghori Llywodraeth Cymru ar ei pholis茂au iechyd cyhoeddus, amaeth, defnydd tir a newid hinsawdd, yn arwain y 'Rhaglen gwyliadwriaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru鈥 ac yn eistedd ar Gr诺p Cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Sylweddau o Bryder sy鈥檔 Dod i鈥檙 Amlwg.
Yr Athro Mark Bellis聽
Mae Mark Bellis yn Athro Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ac yn Athro Iechyd Cyhoeddus a Gwyddor Ymddygiadol ym Mhrifysgol Liverpool John Moores. Mae鈥檔 gwneud gwaith ymchwil a datblygu ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol, mewn meysydd sy鈥檔 cynnwys profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, alcohol, cyffuriau, iechyd rhywiol, ac ers dros ddegawd, ef fu Pwynt Ffocws y Deyrnas Unedig (UK Focal Point) ar drais ac atal anafiadau. Mae ei waith yn cwmpasu astudiaethau ymchwil gwreiddiol, adolygiadau systemaidd, economeg iechyd a gweithrediad polisi. Mae Mark yn ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus cofrestredig ar gyfer y GIG yng Nghymru ac fe dderbyniodd OBE am ei wasanaethau i ofal iechyd yn 2009. Ef sy鈥檔 cadeirio y Ganolfan Cydweithredu er Atal Trais.