Y Sefydliad Dyfodol Niwclear wedi'i enwi fel rhan o broject Dichonoldeb a Datblygu Adweithydd Modiwlaidd Uwch (AMR)
Mae Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi鈥檔 ddiweddar y bydd Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol 亚洲色吧 yn rhan o broject Dichonoldeb a Datblygu Adweithydd Modiwlaidd Uwch (AMR) gwerth 拢10M dan arweiniad Westinghouse.
Wrth i'r wlad ymdrechu i gynhyrchu Sero CO2, mae ynni niwclear yn cael ei ddefnyddio fel un o'r adnoddau mwyaf blaenllaw sy'n darparu trydan cyson dibynadwy, cynaliadwy, CO2 isel.
Mae Adweithyddion Modiwlaidd Uwch yn cynrychioli newid sylweddol mewn perfformiad a diogelwch a allai hefyd alluogi cyd-gynhyrchu adnoddau (er enghraifft hydrogen neu wresogi ar gyfer prosesau diwydiannol) gan gymryd camau pellach i ddyfodol sero CO2 net trwy ddad-garboneiddio dwys.
Bydd Dr Simon Middleburgh yn arwain t卯m bach ym Mhrifysgol 亚洲色吧 i ddylunio, adeiladu a gweithredu cyfleuster sy'n gallu profi ymddygiad ystod o gydrannau a deunyddiau craidd mewn plwm tawdd llifeiriol. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosib dewis deunyddiau yn ogystal 芒 chyflymu'r broses o drwyddedu a phrofi cydrannau.
Ynghyd 芒'r gwaith arbrofol, gwneir ymdrechion modelu, gan ddarparu dealltwriaeth fecanistaidd o ymddygiad y deunyddiau.
Bydd t卯m 亚洲色吧 yn gweithio'n agos gyda'r partneriaid diwydiant eraill yng nghonsortiwm Westinghouse, gan gynnwys Jacobs a chyda Labordy Niwclear Cenedlaethol y DU.
Mae'r arian yn cynrychioli'r dylanwad cynyddol y mae Prifysgol 亚洲色吧 yn ei gael yn y rhanbarth, a thu hwnt, sy'n gysylltiedig ag adeiladau niwclear newydd.
Yn bwysig, mae gan y project ddarpariaethau ar gyfer swydd 么l-ddoethurol newydd ym Mhrifysgol 亚洲色吧, a fydd yn cael ei hysbysebu cyn bo hir, (e-bostiwch s.middleburgh@bangor.ac.uk am fanylion).