Mae'r 拢421,733 o gefnogaeth wedi dod gan Airbus Endeavr, menter ar y cyd rhwng Airbus Defence and Space a Llywodraeth Cymru, a bydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu offeryn arloesol ar gyfer canfod elfennau niweidiol o'r enw PFAS (sylweddau perfflworoalcyl a pholyfflworoalcyl), sydd i'w cael mewn deunyddiau awyrennau.
Defnyddir PFAS yn helaeth mewn cynhyrchion fel pethau diffodd t芒n ac offer coginio nad sy鈥檔 glynu, ac mae'n ddrwg-enwog am ei hydwythedd a'r risgiau iechyd posibl y gall eu hachosi.
鈥淕all y sylweddau hyn gronni yn y corff dynol dros amser, gan arwain at broblemau iechyd difrifol, gan gynnwys canser a niwed i'r afu,鈥 meddai Dr Kang Li. 鈥淚鈥檙 diwydiant awyrennau, mae adnabod a rheoli halogiad PFAS yn hanfodol, gan fod y cemegau hyn i'w cael yn gyffredin mewn cydrannau a deunyddiau amrywiol a ddefnyddir wrth gynhyrchu.鈥
Roedd dulliau blaenorol a ddefnyddiwyd i ganfod PFAS, er yn effeithiol, yn ddrud ac yn cymryd llawer o amser. Roedd ganddynt heriau hefyd wrth nodi crynodiadau isel o'i elfennau cyfansoddol. Mae'r datrysiad newydd yn defnyddio techneg ddatblygedig sy'n hysbys fel SESRS (Surface-Enhanced Stimulated Raman Spectroscopy) sy'n fwy sensitif i PFAS ac sy'n gallu ei ganfod mewn crynodiad llawer is.
鈥淢ae ffocws y prosiect ar SESRS yn deillio o'i allu i fwyhau arwyddnod cemegol PFAS, gan ganiat谩u canfod yn gyflymach ac yn fwy cywir,鈥 meddai Dr Kang.
Datblygodd ymchwilwyr Prifysgol 亚洲色吧 sy'n rhan o'r prosiect offeryn dysgu peirianyddol i ddadansoddi'r arwyddnodau cemegol hyn, gyda'r nod o nodi鈥檔 gyflym math a swm y cemegau PFAS niweidiol sy'n bresennol.
鈥淭rwy'r prosiect hwn, rydym yn falch o gyfrannu at ddatblygiadau cynaliadwy ym maes hedfan trwy gymhwyso technegau AI a dysgu peirianyddol blaengar,鈥 meddai Dr Mosab Bazargani, Prifysgol 亚洲色吧.
鈥淢ae gan Brifysgol 亚洲色吧 ymrwymiad hirsefydlog i gynaliadwyedd ac arloesedd ym maes hedfan, sy'n dyddio'n 么l i ddyddiau cynharaf y diwydiant awyrennau. Mae'r cydweithio hwn yn ein galluogi i wthio ffiniau'r hyn y gall AI ei gyflawni wrth ddiogelu iechyd a'r amgylchedd.鈥
Drwy gydweithio'n agos, mae'r timau yn PDC a Phrifysgol 亚洲色吧 yn perfformio gwaith gwirioneddol ryngddisgyblaethol i gynhyrchu system gyflawn ar gyfer canfod PFAS. Gwnaed y datblygiad arloesol hwn yn bosibl trwy ymdrechion ar y cyd PDC, Prifysgol 亚洲色吧 ac Airbus Endeavr, ac mae wedi ymgorffori ymchwil arloesol o wahanol feysydd, gan gynnwys opteg, cemeg, a deallusrwydd artiffisial.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: 鈥淢ae'r rhaglen Endeavr yn ymwneud 芒 thyfu economi Cymru drwy helpu i droi syniadau arloesol yn realiti. 鈥淢ae'r bartneriaeth hon rhwng Prifysgol De Cymru a Phrifysgol 亚洲色吧 yn darparu ateb arloesol i broblem gymhleth yn y diwydiant ac yn tynnu sylw at sut y gall y byd academaidd yng Nghymru ymateb i'r heriau unigryw hyn drwy ddefnyddio dull cydweithredol. 鈥淩wy'n falch bod Endeavr wedi gallu cefnogi'r prifysgolion drwy'r rhaglen hon ac mae gen i ddiddordeb mewn dysgu am y canlyniadau.鈥