Bydd y project FUTURE OAK, sy'n cynnwys gwyddonwyr ym Mhrifysgol 亚洲色吧, Prifysgol Aberystwyth, Forest Research a鈥檙 Sylva Foundation, yn astudio sut mae newid amgylcheddol ac afiechydon yn effeithio ar ficrobiomau coed derw.
Ceir oddeutu 170 miliwn o goed derw yn y Deyrnas Unedig, a mwy o goed derw hynafol na gweddill Ewrop i gyd. Mae coed derw brodorol yn cynnal dros 2000 o rywogaethau o bryfed, adar, mamaliaid a ffyngau, ond mae newid yn yr hinsawdd, gweithgareddau dynol, ac achosion o afiechydon coed yn effeithio ar iechyd ein coedwigoedd. Mae dirywiad ac铆wt coed derw (neu AOD) yn fygythiad sylweddol i'n coed derw brodorol. Mae coed sy鈥檔 dioddef dirywiad ac铆wt coed derw yn cael eu gwanhau gan straen amgylcheddol, fel sychder, ac mae sawl bacteria gwahanol yn achosi i feinwe'r rhisgl mewnol bydru. Mae chwilod hefyd yn bwydo ar risgl mewnol coed gwan, sy鈥檔 cynyddu gweithgaredd bacteriol ymhellach. Yn y pen draw, mae'r rhisgl allanol yn torri, gan ryddhau hylif o'r meinwe fewnol sy'n pydru ac yn achosi'r 'gwaedu' yn y boncyff a welir ar goed sy鈥檔 dioddef o ddirywiad ac铆wt coed derw.聽
Fel pobl, mae gan goed driliynau o ficrobau sy鈥檔 byw arnynt ac ynddynt. Yr enw ar y casgliad hwn o ficrobau a'r rhan o'r planhigyn lle maent yn weithredol yw'r 'microbiome'. Mae microbiomau yn bwysig i iechyd planhigion ac anifeiliaid - maent yn darparu maetholion ar gyfer twf, yn rheoleiddio systemau imiwnedd, ac yn amddiffyn rhag pathogenau. Mae microbau buddiol mewn microbiome coeden yn hanfodol i ymladd afiechydon.聽
Meddai鈥檙 Athro James McDonald, arweinydd y project:
鈥淏ydd y project FUTURE OAK yn dadansoddi cannoedd o goed derw brodorol ledled Prydain i ddeall pa ficrobau sy'n hybu iechyd ac yn ymladd afiechydon. Yna byddwn yn profi gallu'r microbau hyn i atal bacteria sy'n achosi afiechyd. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu triniaethau bioreoli ar gyfer y microbiome derw, i hyrwyddo coed iachach ac i atal symptomau dirywiad ac铆wt coed derw. Gan weithio gyda rheolwyr coedwigoedd, byddwn yn ceisio deall sut mae microbiomau yn cyd-fynd 芒鈥檙 ddealltwriaeth sydd gennym o iechyd coed, a sut gall ein hymchwil helpu.鈥
Dirywiad ac铆wt coed derw
Amddiffyn ein coed derw
Meddai鈥檙 Athro McDonald:
鈥淩ydym yn falch iawn o gael cyllid ar gyfer y project hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda pherchnogion tir a rheolwyr coedwigoedd i ddiogelu ein coed derw eiconig a'r ecosystemau maent yn eu darparu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.鈥
Dywedodd y Prif Swyddog Iechyd Planhigion, Nicola Spence:
鈥淢ae'n hollbwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein coed derw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd project ymchwil FUTURE OAK yn chwarae rhan bwysig wrth ddod o hyd i atebion i wneud y 聽rhywogaeth eiconig hon o goeden yn fwy gwydn. Cefnogir y project hwn gan Action Oak - partneriaeth arloesol, gydweithredol sy'n codi arian ar gyfer projectau ymchwil uchelgeisiol fel FUTURE OAK."
Cefnogir yr ymchwil gan 拢1.3M o gyllid gan y Bacterial Plant Diseases Programme wedi ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), Defra a Llywodraeth yr Alban a chaiff hefyd ei gefnogi gan Action Oak.