Hwb Datgarboneiddio Arloesol yn agor ym Mhenygroes – y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig
Mae hwb datgarboneiddio sy’n torri tir newydd yng ngogledd orllewin Cymru – y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig – wedi cyrraedd carreg filltir arbennig yn ei hanes.
Heddiw (dydd Gwener, 15 Tachwedd), agorodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth a gogledd Cymru, Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes yn swyddogol, sef prosiect cydweithredol rhwng Adra, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol ɫ.
Mae'r hen ffatri cynhyrchion hylendid wedi ei thrawsnewid dros y ddwy flynedd ddiwethaf i fod yn hwb datgarboneiddio a fydd yn sicrhau bod gogledd orllewin Cymru yn flaenllaw ar yr agenda datgarboneiddio, gan weithio gyda chymunedau a busnesau i ôl-osod cartrefi dros y blynyddoedd nesaf.
Yn ystod yr ymweliad, edrychodd Mr Skates ar yr ychwanegiad diweddaraf yn Nhŷ Gwyrddfai - cyfleuster ymchwil a datblygu arloesol ar gyfer profi a threialu technoleg a deunyddiau newydd sy’n cyd-fynd â’r agenda datgarboneiddio. Mae gan y cyfleuster hwn ddwy siambr sydd wedi'u cynllunio i fod fel tu mewn a'r tu allan i dŷ ar gyfer profi hinsawdd. Arweinir y cyfleuster hwn gan Brifysgol ɫ ac mae wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Mae Tŷ Gwyrddfai yn gartref i brif swyddfa Trwsio, contractwr mewnol Adra sy’n cyflogi dros 150 o staff. Mae Travis Perkins hefyd wedi sefydlu depo ar y safle i ddarparu deunyddiau a chyflenwadau i Adra a'i gontractwyr.
Mae Busnes@LlandrilloMenai, ochr masnachol Grŵp Llandrillo Menai yn rheoli podiau hyfforddi ar y safle gan gyflwyno sgiliau datgarboneiddio ac adeiladu wedi'u teilwra i bobl ifanc ac aelodau presennol y gweithlu adeiladu, yn enwedig mewn meysydd fel inswleiddio waliau allanol, gosod a gwasanaethu paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer a storfeydd batris.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae’n wych bod yma heddiw i agor Tŷ Gwyrddfai yn swyddogol. Mae’n arbennig o briodol dathlu’r hwb datgarboneiddio hwn sy’n torri tir newydd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru.
“Mae’r safle hwn yn cyflawni ar gynifer o lefelau, gan ddod o hyd i ffyrdd o ddatgarboneiddio cartrefi, darparu sgiliau a hyfforddiant hanfodol ym maes datgarboneiddio, a chymaint mwy. Mae’n dda gweld sut y mae wedi dod â phartneriaid allweddol yn y rhanbarth ynghyd ac rwy’n falch o weld canlyniadau cadarnhaol cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn y cyfleuster rhagorol hwn.”
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i Dŷ Gwyrddfai, sef yr hwb cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, ac sydd wedi bod yn bosib drwy’r bartneriaeth wych rhwng Adra, Prifysgol ɫ a Grŵp Llandrillo Menai.
“Mae’r bartneriaeth a’r ddarpariaeth hon yn wirioneddol unigryw drwy ddod â’r sector tai, Addysg Bellach ac Addysg Uwch ynghyd – oll gyda’r nod uchelgeisiol o ymateb i anghenion yr economi ranbarthol o ran cyrraedd targedau sero net.
“Rydym hefyd wedi bod yn ffodus iawn i ddenu cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chefnogaeth cwmnïau blaenllaw yn y sector a wnaeth gydnabod yn gynnar y potensial ar gyfer Tŷ Gwyrddfai fel hwb yng ngogledd orllewin Cymru.
"Bydd y datblygiad yn arwain at weithlu mwy cymwys gyda mwy o sgiliau a bydd hefyd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn ein cartrefi, a fydd yn ei dro yn lleihau effaith costau tanwydd ac ynni cynyddol trwy wneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon a gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid".
Dywedodd Aled Jones-Griffith, , Prif Weithredwr, Grŵp Llandrillo Menai: “Mae Busnes@LlandrilloMenai yn falch o fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn. Tŷ Gwyrddfai yw'r cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig i ddarparu cymorth sgiliau ac arloesi ond mae hefyd yn cynrychioli dull arloesol o weithio lle mae diwydiant a darparwyr yn cydweithio. Y canlyniad yw ein bod yn ymateb gyda'n gilydd yn uniongyrchol i anghenion economi gogledd Cymru a thu hwnt.
“Trwy gydweithio’n agos ag arweinwyr diwydiant a phartneriaid academaidd, mae’r bartneriaeth hon yn meithrin arloesedd sydd nid yn unig yn hyrwyddo’r agenda datgarboneiddio, ond sydd hefyd yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r gallu i’n dysgwyr a’n busnesau i ysgogi newid cadarnhaol yn eu cymunedau”.
Ychwanegodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol ɫ: “Mae Prifysgol ɫ yn falch o fod yn bartner ym mhrosiect Tŷ Gwyrddfai, gan ail-ddatgan ein hymrwymiad i arloesi cynaliadwy a chefnogi taith Cymru tuag at ddatgarboneiddio.
“Drwy weithio'n agos gyda diwydiant, bydd y cyfleuster hwn yn datblygu ymchwil i sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y sector adeiladu wrth gryfhau ein partneriaethau â busnesau a chymunedau lleol.
“Gyda’n gilydd, rydym yn gosod Gogledd Cymru ar flaen y gad yn y trawsnewid gwyrdd.”
Ymunodd disgyblion o Ysgol Bro Lleu, Penygroes ac Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd yn y dathliadau a darllenodd y bardd lleol Meirion MacIntyre Huws, enillydd yn yr Eisteddfod genedlaethol, gerdd a ysgrifennodd am Dŷ Gwyrddfai yn arbennig ar gyfer y digwyddiad.