Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn arwain un o wyth project a ariennir gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig i chwyldroi ein gallu i deithio ymhellach i’r gofod – a hyd yn oed teithio i’r blaned Mawrth.
Mewn erthygl gan y BBC, ', Siaradodd Yr Athro Simon Middleburgh am y gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud gan y tîm.
Bydd y gwaith ymchwil yn gwneud teithio i’r gofod yn fwy diogel ac effeithlon, gan ddefnyddio technolegau rheoli o bell a defnyddio cyflenwadau y gellir dod o hyd iddynt yn y gofod i gynnal gofodwyr a llongau gofod.
Bydd gwaith ymchwil Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, dan arweiniad Dr Phylis Makurunje, yn defnyddio technegau gweithgynhyrchu adiol i greu tanwyddau niwclear ar gyfer gyriant gofod. Mae systemau tanwydd niwclear sefydlog o'r fath yn hanfodol i alluogi teithiau i ddyfnder y gofod.
Bydd y prosesau newydd sy’n cael eu datblygu gan wyddonwyr o Sefydliad Dyfodol Niwclear ÑÇÖÞÉ«°É yn galluogi datblygu a gweithgynhyrchu amrywiol gyfluniadau a dyluniadau tanwydd na ellir eu gwireddu’n hawdd trwy ddulliau gweithgynhyrchu confensiynol.Â
Meddai’r Athro mewn Deunyddiau Niwclear a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, yr Athro Simon Middleburgh: “Bydd y project hwn yn harneisio’r arbenigedd sydd gennym ym maes tanwydd niwclear yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear ac yn ei gymhwyso i un o’r cymwysiadau mwyaf cyffrous posibl, sef archwilio’r gofod.
“Ar y lleuad ac ar gyrff planedol sydd â dydd a nos, ni allwn bellach ddibynnu ar yr Haul am ynni ac felly mae’n rhaid i ni ddylunio systemau fel y micro-adweithydd bach er mwyn cynnal bywyd.
“Ynni niwclear yw’r unig ffordd sydd gennym ar hyn o bryd i ddarparu’r pŵer ar gyfer y cyfnod hwnnw o deithio i’r gofod. Rhaid i’r tanwydd fod yn hynod gadarn a goroesi grymoedd lansio ac yna bod yn ddibynadwy am flynyddoedd lawer.
“Mae gwyddonwyr a pheirianwyr rhagorol yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear yn mynd i’r afael â’r her hon, ond bydd angen mwy dros y blynyddoedd i ddod a gobeithiwn y bydd y rhaglen Beirianneg newydd yn y brifysgol yn darparu cyfoeth o gyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr sy’n dymuno gweithio yn y meysydd cyffrous hyn o ymchwil a datblygu.