Mae cyflymder newid amgylcheddol yn heriol iawn i organebau gwyllt. Wrth gael eu hamlygu i amgylchedd newydd gall planhigion ac anifeiliaid unigol o bosibl addasu eu bioleg i ymdopi'n well 芒 phwysau newydd - gelwir hyn yn blastigrwydd ffenoteipaidd.
Mae plastigrwydd yn debygol o fod yn bwysig yn ystod camau cynnar cytrefu lleoedd newydd neu pan gaiff organebau eu hamlygu i sylweddau gwenwynig yn yr amgylchedd. Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn yn dangos y gall plastigrwydd cynnar ddylanwadu ar y gallu i esblygu addasiadau genetig i orchfygu cynefinoedd newydd.
Mae'r gludlys arfor, sef blodyn gwyllt arfordirol o Ynysoedd Prydain wedi addasu i wastraff mwyngloddio gwenwynig sy鈥檔 llawn sinc ac sy'n lladd y rhan fwyaf o rywogaethau planhigion eraill. Mae planhigion sy'n goddef sinc wedi esblygu o boblogaethau arfordirol sy'n sensitif i sinc yn annibynnol ar ei gilydd mewn gwahanol leoedd, a hynny sawl gwaith.
Er mwyn deall r么l plastigrwydd mewn addasu cyflym, cynhaliodd t卯m o ymchwilwyr o dan arweiniad Prifysgol 亚洲色吧 arbrofion ar y gludlys arfor.
Gan fod goddefgarwch sinc wedi esblygu sawl gwaith, rhoddodd hyn gyfle i'r ymchwilwyr ymchwilio i weld a oedd plastigrwydd hynafiadol yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddai'r un genynnau'n cael eu defnyddio gan wahanol boblogaethau a oedd yn cael eu hamlygu i'r un amgylchedd.
Trwy amlygu'r planhigion goddefgar a sensitif i amgylcheddau anfalaen ac amgylcheddau wedi eu llygru 芒 sinc a mesur y newidiadau ym mynegiant y genynnau yng ngwreiddiau'r planhigyn, roedd yr ymchwilwyr yn gallu gweld sut mae plastigrwydd yr hynafiaid arfordirol wedi paratoi'r ffordd i fedru addasu鈥檔 gyflym iawn.
Gludlys arfor
Mae'r planhigion hyn fel rheol yn tyfu ar glogwyni a thraethau graean, ond o ganlyniad i鈥檙 mwyngloddio roedd lle newydd iddynt ei lenwi nad oedd planhigion eraill yn gallu manteisio arno mor gyflym. Mae ein hymchwil wedi dangos bod peth o鈥檙 plastigrwydd buddiol yn y planhigion arfordirol wedi helpu鈥檙 planhigion yn y mwyngloddiau i addasu mor gyflym.
Ychwanegodd Alex,
鈥淵n rhyfeddol, os yw genyn yn ymateb i鈥檙 amgylchedd newydd mewn ffordd fuddiol yn y planhigion hynafol, mae鈥檔 llawer mwy tebygol y bydd y genyn hwnnw鈥檔 cael ei ailddefnyddio ym mhob un o鈥檙 llinachau sy鈥檔 addasu鈥檔 annibynnol i鈥檙 amgylchedd newydd. Gallai plastigrwydd ffenoteipaidd ei gwneud yn fwy tebygol y byddai'r un canlyniad esblygiadol yn digwydd pe bai t芒p bywyd yn cael ei ailchwarae. Os ydym yn deall ymatebion plastigrwydd rhywogaethau i newid amgylcheddol, efallai y byddwn mewn sefyllfa i ragweld yn well beth fydd effeithiau newid hinsawdd ar fioamrywiaeth.鈥