Sesiynau Blasu gan Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol
Mae Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol ar fin cynnal cyfres o ddarlithoedd ar-lein yn rhad ac am ddim. Mae’r darlithoedd wedi’u teilwra ar gyfer myfyrwyr sy’n meddwl am astudio yn y Brifysgol. Wedi'u cynllunio i roi blas i chi o sut beth yw astudio ar lefel Prifysgol, maen nhw'n ffordd wych o ddod i adnabod maes pwnc yn well a chael blas ar yr hyn sydd i ddod! Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn darlithoedd drwy Gyfrwng y Gymraeg a Chyfrwng Saesneg. Bydd y sesiynau yn cael eu cyflwyno’n rhithiol trwy Microsoft Teams. Trwy gydol y sesiynau anogir myfyrwyr i gymryd rhan ac mewn dadleuon a thrafodaethau.
Sesiynau ar y gweill
22/01/2025, 5:15yh - I'm not a cat, but who am I? Catfishing and the Law in England and Wales (Sesiwn Saesneg) - Mae catfishing, y weithred o greu persona ar-lein ffug i dwyllo eraill, yn aml er budd personol, ariannol neu emosiynol, wedi cynyddu'n esbonyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd poblogrwydd cyfryngau cymdeithasol ac apiau dyddio. Mae’r ddarlith hon yn rhoi trosolwg o’r gyfraith bresennol sy’n ymwneud â’r mater hwn yng Nghymru a Lloegr, goblygiadau moesegol a chymdeithasol catfishing, a sut y gall llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac apiau dyddio gynyddu eu gallu i atal gweithredoedd o’r fath ac amddiffyn pobl yn well rhag dod yn ddioddefwyr posibl.
27/01/2025, 5yh - The Holocaust and Wales (Sesiwn Saesneg) - Bydd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É mewn cydweithrediad â Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost eleni, sydd ar y thema Ar gyfer Gwell Ddyfodol, gyda darlith ar-lein ddiddorol: Yr Holocost a Chymru. Bydd y sesiwn awr hon yn archwilio’r cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a’r Holocost, gan daflu goleuni ar y gwydnwch, yr undod, a’r tosturi a ddaeth i’r amlwg yn ystod un o gyfnodau tywyllaf hanes, gan hefyd gydnabod rhai tensiynau. Bydd y themâu a archwilir yn cynnwys: Ymatebion Cymreig i'r Holocost: Sut yr ymgysylltodd cymunedau yng Nghymru â ffoaduriaid a’r erchyllterau. Y Kindertransport yng Nghymru: Straeon gobaith wrth i blant o ffoaduriaid ddod o hyd i noddfa yng Nghymru, a sut mae’r profiadau hyn yn ysbrydoli ymdrechion yn y dyfodol i groesawu'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth. Adeiladu Gwell Ddyfodol: Gwersi o ymgysylltiad Cymru â goroeswyr yr Holocost a ffoaduriaid, a sut maent yn ysbrydoli ymdrechion parhaus i feithrin cynwysoldeb, dealltwriaeth a thosturi. Drwy fyfyrio ar y straeon hyn, mae’r ddarlith hon yn cyd-fynd â thema HMD Ar Gyfer Gwell Dyfodol, drwy ein hannog i ddysgu o’r gorffennol i greu byd sy’n rhydd o gasineb a gwahaniaethu.
02/02/2025, 11yb - The British Empire – how the world fought back (Sesiwn Saesneg) - Nid yw’r haul byth yn machlud ar yr Ymerodraeth Brydeinig, yn ôl y dywediad. Ar ei hanterth ar drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, roedd yr Ymerodraeth yn meddiannu chwarter arwynebedd a phoblogaeth y byd, gan ddod i'r amlwg fel ymerodraeth fwyaf y byd. Ond mae hegemoni ddiweddarach Prydain yn cuddio hanes cynharach llawer mwy cymhleth, lle gwrthwynebwyd ehangiad trefedigaethol yn ffyrnig gan fyd cyn-fodern a oedd, mewn llawer o achosion, yn fwy soffistigedig yn ddiwylliannol, yn gyfoethocach yn economaidd, ac yn fwy pwerus yn filwrol na Phrydain. O dylwythau Iwerddon a phenaduriaethau Gogledd America, i deyrnasoedd Gorllewin Affrica ac ymerodraethau Asia, cafodd yr Ymerodraeth Brydeinig ei gwrthsefyll mewn ffyrdd rhyfeddol; ffyrdd a wnaeth, yn amlach na pheidio, ail-lunio hynt Ymerodraeth Prydain.
12/02/2025, 5yh - Sex, Scandal and Celebrities: Valentine’s Special (Sesiwn Saesneg) - Ymunwch â Dr Mari Elin Wiliam ar gyfer digwydd Diwrnod San Ffolant arbennig yn archwilio sut – ymhell cyn Love Island - roedd enwogion ar drywydd cariad a blys yn aml yn achosi sgandal, cyffrogarwch a dadleuon ynghylch moesoldeb. Gan ddefnyddio astudiaethau achos o Brydain ac America yn yr 20fed ganrif, bydd y sesiwn yn dadlau bod sgandalau enwogion yn llawer mwy na hel clecs dihangol. Mewn gwirionedd, maent yn ddefnyddiol iawn wrth ddatgelu agweddau tuag at faterion LHDTC+, rhyw a rhywedd. Gan ddefnyddio ffotograffau, papurau newydd hanesyddol a chyfweliadau byddwn yn trafod sgandalau sy'n rhychwantu merched ifanc yr Oes Jazz, sêr Hollywood, teulu brenhinol ac, yn anochel, ychydig o wleidyddion cellweirus hefyd.
16/02/2025, 11yb - Vikings: A murder mystery (Sesiwn Saesneg) - Mae archeolegwyr wedi darganfod pum sgerbwd ar Ynys Môn i gyd yn dyddio o oes y Llychlynwyr. Roedd pob sgerbwd yn dangos arwyddion o farwolaeth dreisgar ac ni chafodd unrhyw un gladdedigaeth briodol. Ymunwch â Dr Leona Huey i ddarganfod pwy oedd y dioddefwyr; pwy wnaeth eu llofruddio; a beth allai’r cymhellion fod? Byddwn yn defnyddio darganfyddiadau archeolegol o’r safle, y cofnod hanesyddol a’n dealltwriaeth o Oes y Llychlynwyr yng Nghymru i roi’r cliwiau at ei gilydd a datrys y dirgelwch llofruddiaeth hwn sy’n 1000 o flynyddoedd oed.
25/02/2025, 5yh - Death and the Victorians (Sesiwn Saesneg) - Pam oedd gan y Fictoriaid obsesiwn â marwolaeth? Taflodd y Frenhines Victoria ei hun i gyfnod dwys o alaru yn dilyn marwolaeth ei gŵr, y Tywysog Albert, ac yn enwog bu’n gwisgo dim byd ond dillad du am weddill ei hoes. Roedd marwolaeth yn nodwedd gyffredin o fywyd Fictoraidd ac yn ymwelydd cyson â chartrefi ar draws y dosbarthiadau cymdeithasol. Yn ystod y sesiwn dydd Sul hwn, byddwch yn archwilio yng nghwmni Dr Lowri Ann Rees rai o ddefodau mwy cymhleth marwolaeth a phrofedigaeth, a sut y dewisodd y Fictoriaid gofio’r ymadawedig.
05/03/2025, 5yh - Digging up the past: Life on an Iron Age Hillfort (Sesiwn Saesneg) - Bydd y sgwrs hon yn archwilio sut roedd cymunedau Oes yr Haearn a oedd yn trigo yng ngogledd orllewin Cymru yn byw. Byddwn yn archwilio datblygiad llociau newydd ar ben bryniau – a elwir yn fryngaerau – a oedd yn lleoedd y dechreuodd cymunedau mwy ffurfio yn y mileniwm cyntaf CC. Mae'r henebion hyn yn dal yn amlwg iawn yn y tirweddau heddiw ac maent yn cynrychioli gweithgarwch grwpiau mawr o bobl. Gosodwyd llawer o sylfeini bywyd modern yn ystod y cyfnod hwn, ond fel y gwelwn yn y sgwrs hon, roedd grwpiau yn yr Oes Haearn yn edrych ar y byd mewn ffordd wahanol iawn i sut yr ydym ni’n ei wneud heddiw! Bydd y cyflwyniad yn canolbwyntio’n benodol ar ymchwil diweddar yn ymwneud a’n gwaith cloddio ar fryngaer fechan Meillionydd ym Mhen Llŷn.
09/03/2025, 11yb - Sadistic Saints and Unruly Rulers? (Sesiwn Saesneg) - Rydyn ni'n meddwl am seintiau fel pobl sanctaidd a gwyrthiol a dreuliodd eu bywydau’n gwneud daioni - felly pobl ddymunol iawn, ond braidd yn ddiflas. Yn ystod y sesiwn hon byddwch yn darganfod bod seintiau Cymru’n unrhyw beth ond yn ddiflas, ac yn fwy tebygol o’ch toddi fel cwyr na throi'r foch arall. Byddwn yn darganfod mwy am y math o ymddygiad ymosodol yr oeddent yn enwog amdano ac yn archwilio pa mor nodweddiadol oedd y seintiau hyn o Gymru yn y cyfnod canoloesol. Mae’r rheolwyr a fu’n gwrthdaro â nhw dro ar ôl tro yn bortreadau diddorol o sut yr oedd y rheolwyr nodweddiadol o Gymru’n bell o fod yn frenhinoedd delfrydol a’r seintiau o Gymru’n bell o fod yn geriwbiaid sanctaidd.
16/03/2025, 11yb - The Good, the Bad, and the Sickly: Dictators as Political Leaders (Sesiwn Saesneg) - Mae unbeniaid yn swyno ac yn dychryn ar yr un pryd. Ac eto, gall y ffordd y maent yn defnyddio eu pŵer ddweud llawer iawn wrthym amdanynt, neu’n sicr sut y cânt eu canfod gan eraill. Mae rhai yn cael eu cofio mewn ffordd gadarnhaol fel sylfaenwyr, tra bod eraill yn cael eu cofio mewn ffordd negyddol, yn wallgof, yn ddrwg ac yn beryglus i'w hadnabod. Byddwn yn meddwl amdanynt fel arweinwyr a ffigurau gwleidyddol ac yn ceisio ystyried sut yr oeddent yn llywodraethu a sut yr oeddent yn cyflwyno eu hunain. Byddwn yn archwilio enghreifftiau cyfarwydd megis Hitler, ac enghreifftiau llai cyfarwydd megis Saparmurat Niyazov. Gwelwn sut, yng nghyd-destun unbeniaid, mae mythau, camgofio a phropaganda yn aml yn llywio ein dealltwriaeth o'r ffigurau gwleidyddol hyn sy'n aml yn ddiffygiol.