Maeyn dangos y r么l bwysig y gallai plannu coedwigoedd masnachol a chadwraeth newydd ei chwarae yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.听
Gall cynlluniau i blannu 600,000 hectar yn y DU ddal yr hyn sy鈥檔 cyfateb i 0.5 i 1.7 biliwn kg o garbon deuocsid erbyn 2120 (cronnus). Mae hyn fwy neu lai yr un fath 芒 gyrru hyd at 14 biliwn yn llai o gilometrau yn ystod yr un cyfnod.听
Yn nodweddiadol, mae coedwigoedd masnachol wedi arwain at amsugno鈥檙 maint uchaf o garbon, gan fod disgwyl i gynhyrchion coed gymryd lle cynhyrchion sydd ag allyriadau uwch o sectorau eraill. Un dull newydd yn yr astudiaeth hon, gan Brifysgolion 亚洲色吧 a Limerick a Llywodraeth British Columbia,听oedd modelu economi gylchol lle mae coed adeiladu ar ddiwedd oes yn cael eu hailgylchu fel papur a phapur yn cael ei ailddefnyddio ar gyfer bio-ynni. Yr ail agwedd unigryw oedd derbyn bod sectorau eraill dan bwysau i leihau allyriadau o鈥檜 cynhyrchion hefyd, ac felly bydd manteision cymharol cynhyrchion coed yn gostwng yn y dyfodol.
鈥淓in nod oedd cynnal asesiad 么l troed carbon cynhwysfawr iawn sy'n ystyried cylch bywyd cyfan y carbon a amsugnir gan goed mewn coedwigoedd newydd鈥 meddai Eilidh Forster, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ac awdur arweiniol yr astudiaeth.听
鈥淥herwydd na fydd y coedwigoedd hyn yn cael eu cynaeafu am 50 mlynedd arall, mae鈥檙 dull safonol o dderbyn technoleg gyfredol yn anghywir. Felly, gwnaethom ddefnyddio 听rhagamcaniadau o dechnoleg y dyfodol i gael gwell syniad o鈥檙 lliniaru tebygol ar newid yn yr hinsawdd yn y tymor hir gan goed wedi'u cynaeafu."
Agwedd allweddol ar y dechnoleg hon yw dal a storio carbon (CCS). Mae CCS yn echdynnu carbon deuocsid wrth gynhyrchu ynni ac yn ei gloi dan ddaear. Byddai hyn yn trawsnewid bio-ynni coed i fod yn 鈥渄echnoleg allyriadau negyddol鈥 sy'n gallu tynnu carbon deuocsid o'r atmosffer yn y tymor hir. 听 听听
Mae'r canlyniadau'n gwrthddweud astudiaethau diweddar sy'n awgrymu bod coedwigoedd masnachol yn gweithredu fel suddfan carbon deuocsid yn y tymor byr yn unig Yn wir, mae'r canlyniadau newydd hyn yn dangos y gallai coedwigoedd conwydd masnachol newydd yn y DU sicrhau hyd at 269% yn fwy o liniaru newid yn yr hinsawdd na choedwigoedd llydanddail lled-naturiol erbyn 2120.听
鈥淢ae coedwigoedd masnachol a chadwraeth yn dangos potensial ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd,鈥 meddai Caren Dymond, cyd-awdur astudio ac ymchwilydd i Lywodraeth British Columbia.听
鈥淏ydd angen i benderfyniadau yngl欧n 芒 phryd a lle i blannu coedwigoedd newydd ystyried anghenion ecolegol, cymdeithasol ac economaidd eang. Er enghraifft, byddai gwella bioamrywiaeth yn ffafrio cymysgedd o fathau o goedwigoedd, gan gynnwys coedwigoedd llydanddail sy'n tyfu'n arafach a ddim yn cael eu cynaeafu." 听 听听
I gloi, dywedodd John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol 亚洲色吧 a chyd-awdur yr astudiaeth:听
鈥淣id oes rhaid cynaeafu coedwigoedd masnachol newydd yn y dyfodol. Felly, mae plannu coedwigoedd masnachol newydd yn ffordd hyblyg i gyfrannu at amcanion sefydlogi鈥檙 hinsawdd yn y tymor hir, ac mae'n sail gadarn i ragdybiaethau yn y dyfodol yngl欧n 芒 chynnydd technolegol yn yr economi.鈥
听