Astudiaeth fawr yn y Deyrnas Unedig yn datgelu canlyniadau siomedig o ran effeithiolrwydd adnodd gofal dementia ar-lein Sefydliad Iechyd y Byd
Mae astudiaeth fawr yn y Deyrnas Unedig i effeithiolrwydd adnodd gofal ar-lein Sefydliad Iechyd y Byd i ofalwyr pobl sy鈥檔 byw gyda dementia wedi datgelu canlyniadau siomedig.
Asesodd ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol 亚洲色吧 y defnydd o mewn treial hapsamplu rheolyddedig yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf - a chyhoeddwyd y canfyddiadau鈥檔 ddiweddar yn .
Datblygodd Sefydliad Iechyd y Byd iSupport yng nghanol niferoedd cynyddol o bobl yn cael diagnosis dementia, gan gynnwys mewn gwledydd incwm isel a chanolig, ac mewn ymateb i'r galw cynyddol am ymyriadau graddadwy a chost isel i helpu'r unigolion sy'n gofalu amdanynt. Mae trallod ac iselder yn gyffredin ymhlith gofalwyr pobl sy鈥檔 byw gyda dementia, sy鈥檔 rhoi pris uchel arnyn nhw a鈥檙 gymdeithas ehangach.
Nod y rhaglen yw mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 problemau iechyd meddwl a chorfforol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gofal, ac i wella ansawdd bywyd yr unigolion sy鈥檔 gofalu am bobl sy鈥檔 byw gyda dementia. Ers ei ryddhau yn 2019, mae wedi'i weithredu a鈥檌 addasu'n ddiwylliannol ar draws 40 o wledydd, ond mae arbenigwyr wedi rhybuddio mai prin yw'r dystiolaeth ar ei effeithiolrwydd.
Er i鈥檙 ymchwil ganfod nad yw鈥檔 lleihau trallod ac iselder i ofalwyr pobl sy鈥檔 byw gyda dementia ar hyn o bryd, mae鈥檔 dal i gael ei ystyried yn adnodd defnyddiol.
Roedd y treial hapsamplu rheolyddedig yn cynnwys 352 o ofalwyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Archwiliodd effeithiolrwydd yr adnodd hyfforddi a chefnogi rhyngweithiol, yn ei fformat presennol fel rhaglen hunan-dywys, o ran lleihau trallod ac iselder. Deellir ei fod yn un o鈥檙 treialon hapsamplu rheolyddedig mwyaf erioed i werthuso ymyrraeth ar y we ar gyfer gofalwyr pobl sy鈥檔 byw gyda dementia, a鈥檙 llwybr rheoli ar hap cyntaf ar raddfa fawr i werthuso effeithiolrwydd iSupport.
Arweiniwyd y t卯m ymchwil gan yr Athro Gill Windle, sef Cyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol 亚洲色吧, ac roedd yn cynnwys gwyddonwyr o Goleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Strathclyde, ynghyd ag Alzheimer Scotland ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
Dywedodd yr Athro Windle, 鈥淢ae iSupport yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr, ond ni welsom ei fod yn lleihau trallod ac iselder ymysg gofalwyr. Canfuom, er eu bod yn llythrennog yn ddigidol, nad oedd gofalwyr a oedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil yn defnyddio iSupport gymaint ag a ragwelwyd. Mae鈥檙 defnydd isel o iSupport yn awgrymu cyfyngiadau ehangach mewn adnoddau iechyd ar-lein hunan-dywys, sy鈥檔 dod yn rhan gynyddol o ddarpariaeth gofal prif ffrwd fel rhan o鈥檙 trawsnewidiadau digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.聽
鈥淕all y rhain fod yn arbennig o gyfyngol mewn gwledydd incwm uchel, lle gall gofalwyr gael mynediad at ystod o wasanaethau, ac efallai na fyddant yn darparu鈥檙 buddion dymunol. Rydym yn awgrymu bod angen cyswllt personol gan weithiwr gofal proffesiynol, neu gefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer cefnogaeth a chyfathrebu therapiwtig, wedi鈥檌 deilwra, ochr yn ochr ag adnoddau hunan-dywys.
鈥淢ewn gwledydd incwm isel a chanolig, lle mae adnoddau sydd ar gael i ofalwyr yn gyfyngedig iawn a ddim llawer o gymorth proffesiynol ar gael, os o gwbl, gall addasiadau diwylliannol ac ieithyddol o iSupport fod yn adnodd pwysig mewn gofal dementia.
鈥淓fallai y bydd angen i鈥檙 rhai sydd 芒鈥檙 dasg o weithredu feddwl yn greadigol am sut y gallent wella effaith iSupport, er enghraifft trwy gefnogaeth anarbenigol i ddarparu rhywfaint o gyswllt dynol.鈥
Dywedodd yr Athro Joshua Stott, sy鈥檔 ymchwilydd iSupport yn UCL, 鈥淢ae鈥檔 bwysig nodi, nid yw ein canfyddiadau鈥檔 dangos nad yw iSupport yn gweithio, ond oherwydd y lefel isel o ymlyniad ag iSupport, nid oes tystiolaeth ei fod yn gweithio. Fodd bynnag, mae鈥檙 canfyddiadau hyn o bosibl yn bwrw amheuaeth ar ddoethineb cyflwyno iSupport yn rhyngwladol, heb oedi, fel sy鈥檔 cael ei wneud ar hyn o bryd.鈥澛
Un darn o waith oedd y treial hapsamplu rheolyddedig o iSupport, sy鈥檔 rhan o鈥檙 rhaglen ymchwil hon a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal.
Ochr yn ochr 芒鈥檙 treial, ymgymerodd t卯m o Brifysgol 亚洲色吧, UCL a Phrifysgol Strathclyde ag addasiadau mawr o iSupport, a chynhyrchu adnoddau ar-lein newydd i bobl ifanc, gofalwyr De-Asiaidd yn y Deyrnas Unedig, a gofalwyr pobl sy鈥檔 byw 芒 mathau mwy prin o ddementia.
Dywed yr ymchwilwyr fod y rhain yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i鈥檙 grwpiau hyn, gan mai aelodau o鈥檙 teulu sy鈥檔 cefnogi ac yn gofalu am fwyafrif y bobl sy'n byw gyda dementia.