ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Themâu Ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Eigion

Mangrof ar lan y dwr gyda'r haul  yn machlud yn y cefndir
Mangrof ar y lan
Credit:Patjosse (Pixabay)

Thema Bioamrywiaeth, Cadwraeth a'r Cynefin

Ymchwil arloesol mewn ystod lawn o gynefinoedd morol, o ranbarthau pegynol i'r trofannau, ynghyd â gwaith ar wahanol lefelau o’r systemau hynny, ar y lefel ffisegol ac ecolegol.

Glannau creigiog: Swyddogaeth aflonyddwch naturiol a dynol, graddiannau ffisegol, cystadleuaeth, rhyngweithiadau troffig, cyflenwad larfaol a chyflwr ffisiolegol ar recriwtio a bioamrywiaeth. 

Morfeydd heli: Swyddogaeth aflonyddwch naturiol a gweithgareddau dynol ar ddyfalbarhad, sefydlogrwydd a bioamrywiaeth yn y ffactorau sy'n gyrru parhad hirdymor morfeydd heli. Morfeydd heli fel cynefinoedd magu.

Moroedd Sgafell: Effeithiau gyrwyr amgylcheddol ac anthropogenig (e.e. pwysau drwy weithgareddau pysgota, newid yn symudedd gwely'r môr) ar fioamrywiaeth a threfniadaeth gymunedol cynefinoedd Môr Iwerddon a Môr y Gogledd.

Ecosystemau pegynol: Cefnfor yr Arctig a'r Antarctig:  Dylanwad cynhesu ac effeithiau anthropogenig ar fioleg atgenhedlu, bioamrywiaeth a chyplu benthig-eigionol-atmosfferig. 

Riffiau cwrel Môr y Caribi, y Cefnfor Tawel a Chefnfor yr India. Dylanwad gyrwyr bioffisegol ac anthropogenig ar fioamrywiaeth systemau cwrel, o facteria i siarcod. 

Mangrofau De-ddwyrain Asia, Dwyrain Affrica a Gwlff Arabia. Swyddogaeth mangrofau mewn dal a storio carbon a diogelu'r arfordir.

Yr hyn sy’n achosi dirywiad mewn poblogaethau anifeiliaid. Canolbwyntio ar fertebratau y môr, megis morloi, dolffiniaid ac adar y glannau. 

Symudiad a dosbarthiad morfilod, mamaliaid adeindroed, ac adar y môr, a sut mae hynny'n cysylltu ag ansawdd cynefinoedd benthig ac eigioneg.

Modelau o wasgariad larfaol, adferiad cysylltedd poblogaeth a deinameg metaboblogaeth mewn infertebratau môr.

Swyddogaeth aflonyddwch anthropogenig a naturiol mewn patrymau strwythur cymunedol ar wahanol raddfeydd gofodol.

Cynefinoedd benthig ac eigionol a yrrir gan brosesau ffisegol yn y golofn ddŵr (e.e. tonnau a’r llanw). 

Gyrwyr hydrodynamig, gwaddodegol a biolegol ar ddeinamig cydlynol ac anghydlynol gwely'r môr.

Fflycsau maetholion, gronynnau, cludiant gwaddod a llygryddion o ffynonellau pwynt a ffynonellau gwasgaredig (afonydd trwy fôr bas i amgylcheddau môr dwfn).

Llun uwchben y cymylau yn edrych i lawr ar y cefnfor gyda'r haul yn adlewyrchu arno
Yr haul yn adlewyrchu oddi ar wyneb y cefnfor trwy'r cymylau
Credit:jaimevilla23 (Pixabay)

Thema Y Cefnfor a'r hinsawdd sy'n newid

Mynd i’r afael â phynciau hollbwysig sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a’r cefnforoedd a’u heffeithiau ar yr ecosystem forol trwy gyfuniadau o astudiaethau maes ac astudiaethau arbrofol yn ogystal â modelu.

Cynefino, addasu, ymwrthedd a gwytnwch – ymatebion ffisiolegol a hanes bywyd organebau’r môr i newid amgylcheddol.

Uwchraddio ymatebion unigol i boblogaethau Effeithiau tywydd poeth a digwyddiadau eithafol eraill ar organebau e.e. cannu cwrel.

Tirlithriadau tanddwr a newid hinsawdd: amlder digwyddiadau sy’n achosi newid a storio carbon yn y cefnfor dwfn.

Modelu cyflwr y cefnfor yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Swyddogaeth y llanw mewn cymysgu a chylchredeg cefnforoedd yn ystod cyfnodau daearegol y gorffennol

Ail-greu amgylchedd y môr ar amserlenni daearegol a hanesyddol.

Effaith y cefnfor ar ddynameg graddfa amser hir llenni iâ.

Nodi a pharametryddu prosesau sy'n gyrru cymysgu fertigol yn y cefnfor pegynol.

Mesur effaith trolifau ar ddosbarthiad gwres a halen yn y cefnforoedd pegynol.

Y Môr Iwerydd yn dylanwadu ar Gefnfor yr Arctig.

Llifogydd arfordirol ac aberol.

Cyfrannu at ddatblygu amddiffynfeydd arfordirol trwy ddulliau cynaliadwy.

Mesur swyddogaeth stormydd ar ddeinameg gwely'r môr a deinameg arfordirol.

Tyrbinau gwynt yn codi uwchben y niwl
Tyrbinau gwynt
Credit:Oimheidi (Pixabay)

Thema Cefnfor Cynaliadwy

Cyfrannu at ddefnyddio deunyddiau mewn ffordd gynaliadwy - yn lleol ac yn fyd-eang.

Cyfuno modelu ac arsylwadau i nodweddu adnodd ynni adnewyddadwy'r môr.

Deall yr adborth rhwng echdynnu ynni a'r amgylchedd.

Optimeiddio datblygiad safleoedd ar raddfa fewn-arae a rhyng-arae er mwyn gwneud y mwyaf o gynnyrch ynni tra'n lleihau costau ac optimeiddio’r effaith amgylcheddol.

Defnyddio prosesau rhewlifol a daearegol o’r gorffennol i ddeall a rhagweld yn well ystyriaethau geodechnegol ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy heddiw ac yn y dyfodol.

Datblygu technegau ar gyfer dyframaethu cynaliadwy. Canolbwyntio ar bysgod cregyn megis corgimychiaid, cregyn gleision, wystrys, a chregyn bylchog. 

Deall prosesau a swyddogaethau ecolegol sy'n llywio iechyd pysgod cregyn.

Ailstocio wystrys Ewropeaidd. 

Cydweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Ansawdd dŵr, pysgod cregyn ac iechyd y cyhoedd.

Darparu’r sail tystiolaeth ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy. 

Mesur effeithiau ecosystem pysgota ar ecosystemau gwely'r môr.

Monitro deinameg poblogaeth pysgod asgellog a physgod cregyn. 

Cydweithio â’r diwydiant pysgota a chyfrannu at newidiadau yn y modd y caiff pysgodfeydd Cymru eu rheoli.

Projectau perthnasol: 

Sicrhau dealltwriaeth o gyfraniadau mangrofau, morfeydd heli, morwellt a gwely’r môr at storio carbon. 

Helpu i sefydlu project cyntaf y byd i fasnachu tystysgrifau carbon glas, yn deillio o warchodaeth gymunedol coedwigoedd mangrof (Mikoko Pamoja, Kenya).

Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu ardaloedd morol gwarchodedig ym Môr Iwerddon ac mewn riffiau cwrel Ynysoedd y Caiman, Archipelago Chagos a'r Cefnfor Tawel.

Cyfrannu at newid polisi llywodraeth tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig trwy ddynodi ardaloedd morol gwarchodedig.

Mufran wen ar ei nyth efo rhwyd plastig a rhaff o'r chwmpas
Nyth mulfran wedi ei wneud o hen rwydi pysgota
Credit:A_Different_Perspective (Pixabay)

Thema Cefnfor Dynol

Cyfrannu at ryngweithio mwy cytbwys rhwng cymdeithasau dynol a natur.

Gweithio gyda rheolwyr diwydiannau bwyd a dyframaethu i leihau tlodi a datblygu adnoddau cynaliadwy.

Sicrhau diogelu’r cyflenwad bwyd, dim tlodi a chydraddoldeb rhywiol trwy weithio gyda chymunedau arfordirol a diwydiannau pysgota.

Deall peryglon arfordirol a morol i bobl, bwyd a’r amgylchedd yn y dyfodol, eu risgiau canfyddedig a sut mae hyn yn dylanwadu ar wytnwch mewn cymunedau ac at newid ymddygiad. 

Hyrwyddo Iechyd Cyfunol pobl a'r blaned trwy gael gwell dealltwriaeth o gysylltiadau dynol-natur ac ymddygiad dynol mewn cyd-destun cadwraeth.

Gwasgariad ffisegol a biolegol deunyddiau plastig yn yr amgylchedd morol. 

Diraddiad macro-blastigion yn ficroblastigion trwy brosesau ffisegol a bioddaeargemegol.

Mesur ffynonellau llygryddion ar bysgod cregyn ac effeithiau ehangach ar ddyframaethu.

Rhagfynegi digwyddiadau cyfansawdd eithafol sy’n achosi llifogydd, llygredd, a newid morffolegol.

Mesur symudedd gwely'r môr o amgylch isadeiledd a cheblau o dan y môr.

Cyfrannu at ddatblygu mesurau lliniaru arfordirol cynaliadwy gydag effeithiau ecolegol cadarnhaol.

Geoberyglon sy'n effeithio ar ddefnydd arfordirol yn y presennol.

Tirlithriadau tanddwr fel geoberyglon: tswnami, difrod i isadeiledd tanddwr, a fflycsau llygryddion.

Modelu ehangu amrywiaeth o rywogaethau.

Cyfrannu at ddileu rhywogaethau ymledol mewn marinas.

Cynnal dadansoddiad cymharol o ymatebion rhywogaethau ymledol a chystadleuwyr brodorol i newid yn yr hinsawdd.

Mesur effaith pathogenau ar bysgod cregyn.

Astudio effeithiau rhaeadru pathogenau ar ddyframaethu.

Clefydau cwrel a'u heffeithiau.