Ymchwilwyr yn rhybuddio bod cynnydd mewn tonnau gwres o dan arwyneb llynnoedd yn bygwth cynefinoedd聽
Mae ymchwilwyr wedi rhybuddio bod cynnydd mewn tonnau gwres sy'n digwydd o dan arwyneb llynnoedd yn bygwth cynefinoedd dyfrol.
Cynhaliodd t卯m o wyddonwyr hinsawdd, dan arweiniad Dr Iestyn Woolway o Brifysgol 亚洲色吧, astudiaeth sydd wedi鈥檌 chyhoeddi yn y cyfnodolyn gwyddonol .
Canfuwyd bod tonnau gwres sy鈥檔 digwydd mewn d诺r dwfn wedi cynyddu o ran amlder, hyd a dwyster dros y 40 mlynedd diwethaf.
Yn ogystal 芒 hynny, mae'r hyn a elwir yn donnau gwres cyfansawdd fertigol, lle mae gwres eithafol yn digwydd ar yr arwyneb a'r gwaelod ar yr un pryd, wedi codi.
Er mwyn cofnodi newidiadau yn rhai o lynnoedd mwyaf y byd, ac ymchwilio i amrywiadau tonnau gwres o fewn llynnoedd, archwiliwyd allbynnau model tri dimensiwn (3D) o Lynnoedd Mawr Laurentiaidd Gogledd America.
Gall digwyddiadau d诺r poeth eithafol mewn llynnoedd amharu鈥檔 sylweddol ar ecosystemau dyfrol, ac er bod llawer o astudiaethau wedi鈥檜 cynnal ar donnau gwres ar yr arwyneb, nid yw strwythurau fertigol o fewn llynnoedd wedi鈥檜 harchwilio fawr ddim.
Mae canfyddiadau'r astudiaeth, lle bu Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 亚洲色吧 yn cydweithio 芒 gwyddonwyr o Michigan Technological University a Southern University of Science and Technology yn datgelu bod tonnau gwres yn digwydd yn aml dan yr arwyneb, a鈥檜 bod yn aml yn para'n hirach ond yn llai dwys na digwyddiadau ar yr arwyneb.
Mae hefyd yn rhybuddio y rhagwelir y bydd newidiadau mewn patrymau tonnau gwres, yn enwedig o dan allyriadau uchel, yn dwys谩u erbyn diwedd y ganrif.
Er y gallai鈥檙 cynnydd yn nhymereddau digynsail oherwydd tonnau gwres mewn llynnoedd fod yn fuddiol i rai rhywogaethau dyfrol trwy ehangu eu cynefin, gall fod yn niweidiol i rywogaethau eraill. Oherwydd hyn, mae meintioli newidiadau mewn tonnau gwres llynnoedd yn hollbwysig er mwyn rhagweld effaith debygol cynhesu hinsawdd ar lynnoedd.
Gall rhywogaethau dyfrol symudol ymateb i aflonyddwch amgylcheddol, megis tymereddau arwynebol eithafol, trwy adleoli i gynefinoedd mwy ffafriol.
Mewn systemau haenu, mae dyfroedd gwaelod yn aml yn oerach nag arwyneb y llyn. Os yw ffactorau amgylcheddol eraill yn ffafriol, gallai llawer o rywogaethau dyfrol ymfudo i'r haenau dyfnach hyn i ddianc rhag straen thermol yr arwyneb.
Gallai d诺r dwfn oerach ddarparu lloches thermol posibl i rywogaethau dyfrol wrth i donnau gwres ar yr arwyneb ddod yn fwy cyffredin a dwys. Fodd bynnag, canfu'r astudiaeth fod y potensial ar gyfer hyn yn lleihau.
Dywedodd Dr Iestyn Woolway o Brifysgol 亚洲色吧, 鈥淔e wnaeth ein hymchwiliad nodi nifer o ganfyddiadau mewn perthynas 芒 photensial gostyngol o ddihangfa thermol fertigol o donnau gwres ar yr arwyneb, a chynnydd yn y pellter fertigol y dylai rhywogaethau deithio i ddianc rhag tonnau gwres ar yr arwyneb pan fo lloches thermol yn bodoli.
鈥淒arganfuwyd amrywiaeth sylweddol yn adeiledd fertigol tonnau gwres o dan yr arwyneb ar draws llynnoedd, a鈥檙 cynnydd mewn tonnau gwres gwaelod gydag amodau arwyneb eithafol, a heb amodau arwyneb eithafol, a chynnydd yn amlder tonnau gwres a oedd yn gwaethygu鈥檔 fertigol.鈥
Mae astudiaethau blaenorol wedi nodi bod tonnau gwres ar arwyneb llynnoedd wedi cynyddu o ran dwyster a pharhad dros y degawdau diwethaf.
Gall y tymereddau d诺r eithafol y mae'n rhaid i rywogaethau eu dioddef yn ystod tonnau gwres ar yr arwyneb arwain yn aml at ganlyniadau difrifol.
Ychwanegodd Dr Iestyn Woolway, 鈥淢ae astudiaethau blaenorol wedi awgrymu y bydd angen i lawer o rywogaethau dyfrol fudo i dd诺r oerach ar uchder neu ledred uwch y ganrif hon i gynnal cynefin thermol dewisol. Gallai rhywogaethau dyfrol hefyd ddianc rhag straen thermol tonnau gwres ar yr arwyneb trwy fudo i ranbarthau dyfnach o fewn llyn.
鈥淔odd bynnag, mae ein hymchwiliad yn dangos, er bod potensial yn aml i rywogaethau dyfrol deithio鈥檔 fertigol o fewn llyn i gyrraedd d诺r oerach, mae cyfran y tonnau gwres ar arwyneb llynoedd heb loches thermol mewn d诺r dyfnach wedi cynyddu.
鈥淢ae鈥檙 ehangiad fertigol hwn mewn tonnau gwres ar arwyneb llynnoedd yn amlygu natur ddeinamig y digwyddiadau gwres eithafol hyn, gan annog organebau dyfrol i addasu eu patrymau dosbarthiad. Wrth i effeithiau tonnau gwres ar arwyneb llynnoedd gyrraedd d诺r dyfnach, gall gostyngiad mewn cynefinoedd digonol arwain at newidiadau i helaethrwydd ac ystod rhywogaethau.
鈥淢ae鈥檙 canfyddiadau hyn yn amlygu鈥檙 angen am fwy o fonitro o dan yr arwyneb er mwyn deall yn llawn a rhagweld effeithiau ecolegol tonnau gwres mewn llynoedd.鈥