Gleiderau robotig tanddwr yn rhoi mewnwelediadau newydd ar effaith mynydd i芒 anferth sy'n toddi
Mae defnydd arloesol gleiderau robotig tanddwr wedi rhoi mewnwelediad newydd i effaith mynydd i芒 anferth yn toddi.
Mewn cenhadaeth uchelgeisiol, cyntaf o鈥檌 bath yn y byd, cafodd y cerbydau hyn yn eu rhyddhau yn agos at fynydd i芒 A-68a yn Antarctica, gan ddarparu mesuriadau pwysig newydd o effeithiau d诺r tawdd mynyddoedd i芒 ar Gefnfor y De a'r ecosystem o'i amgylch.
Mae canfyddiadau鈥檙 astudiaeth, a arweiniwyd gan Dr Natasha Lucas, sy鈥檔 eigionegydd ffisegol yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 亚洲色吧, wedi鈥檜 cyhoeddi yn y .
Canfu'r ymchwilwyr fod d诺r tawdd o arwyneb, ochrau a gwaelod y mynydd i芒 enfawr yn achosi newidiadau mawr yn strwythur tymheredd a halltedd rhan uchaf y golofn dd诺r.
Yn bwysig, mae d诺r tawdd o waelod y mynydd i芒鈥檔 cymysgu 芒 d诺r dwfn cymharol gynnes a hallt ac yn 'ymchwyddo', gan ddod 芒 maetholion o'r cefnfor dyfnach a gronynnau llawn mwynau o'r tu mewn i'r mynydd i芒 ei hun.
Mae'r cyflenwad ychwanegol hwn o faetholion yn ysgogi twf ffytoplancton (planhigion morol microsgopig) ar yr arwyneb, sy'n ffurfio sylfaen cadwyn fwyd hynod gynhyrchiol yr Antarctig.
Gan fod nifer y mynyddoedd i芒 sy鈥檔 ymrannu鈥檔 debygol o gynyddu oherwydd effaith y newid yn yr hinsawdd, mae鈥檔 bwysig deall yr effeithiau ffisegol a biolegol cymhleth ar ddyfroedd y cefnfor y maent yn tramwy drwyddynt, er mwyn rhagweld cylchrediad y cefnfor yn y dyfodol ac iechyd ecosystemau鈥檙 Antarctig.
Oherwydd y perygl cynhenid o agosrwydd mynyddoedd i芒 at longau, credir mai dyma鈥檙 tro cyntaf i wyddonwyr gasglu mesuriadau mor agos at fynydd i芒 anferth sy鈥檔 toddi, gan ddefnyddio gleiderau robotig yn samplu lle na all llongau fynd, gan roi ffenestr ddigynsail i effaith d诺r tawdd ar Gefnfor y De o amgylch.
Aeth ymchwilwyr o鈥檙 National Oceanography Centre a British Antarctic Survey, lle'r oedd Natasha鈥檔 gweithio ar adeg yr astudiaeth ac yn bellach yn Ymchwilydd Anrhydeddus, ati i osod gleider robotig 23 km o un o fynyddoedd i芒 mwyaf y byd, sef A-68a, ym mis Chwefror 2021 yn agos at ynys De Georgia yn yr is-Antarctig.

Mae鈥檔 anodd iawn casglu data ar fynyddoedd i芒. Gellir olrhain symudiadau mawr mynyddoedd i芒 anferth gyda lloerenni, ond ni all llongau ddod yn ddigon agos gan fod symudiadau ar raddfa lai鈥檔 anrhagweladwy ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu bod y data sydd ei angen ar ymchwilwyr i ddatblygu modelau cywir 鈥 sy'n hanfodol wrth ragweld newid hinsawdd yn y dyfodol 鈥 yn aml ar goll.
Casglodd y gleider ddata ar halwynedd a thymheredd y cefnfor, ynghyd 芒 chloroffyl (procsi ar gyfer cynhyrchedd) ac 么l-wasgariadau optegol, sy'n mesur y gronynnau mewn daliant yn y d诺r.
Datgelodd y mesuriadau unigryw, wrth i鈥檙 mynydd i芒 doddi oddi tano 鈥 sef proses o鈥檙 enw toddi gwaelodol 鈥 bod haen o dd诺r o鈥檙 enw 鈥楧诺r Gaeaf鈥 鈥 a ffurfiwyd yn ystod yr haf Awstraidd pan fydd dyfroedd cynhesach yn capio dyfroedd oerach y gaeaf oddi tano 鈥 yn cael ei 鈥榚rydu鈥.
Mae'r band hwn o dd诺r oer, sy'n bresennol yn y cyfnod hwn yn unig, yn rhwystr rhwng dyfroedd arwynebol a dyfroedd dyfnach, gan atal maetholion rhag cyrraedd haenau ar yr arwyneb.
Trwy erydu'r rhwystr hwn, gall dyfroedd dwfn, sy鈥檔 llawn maetholion, godi tuag at yr arwyneb, ynghyd 芒 gronynnau llawn mwynau megis haearn a silica o'r mynydd i芒 sy'n toddi. Mae'r maetholion hyn yn chwarae rhan allweddol wrth ysgogi cynhyrchedd cynradd gan greu bwyd i'r anifeiliaid carismataidd sy'n byw yng Nghefnfor y De.

Dywedodd Dr Natasha Lucas, 鈥淩ydym yn credu mai dyma'r tro cyntaf i fesuriadau gael eu gwneud mor agos at fynydd i芒 鈥 felly mae鈥檔 wirioneddol arloesol! Roedd yn gyffrous iawn gweld y data鈥檔 dod yn 么l, a gweld sut oedd y cefnfor yn newid mor syfrdanol.
鈥淥herwydd y newid yn yr hinsawdd, mae nifer y mynyddoedd i芒 anferth yn cynyddu, felly mae鈥檔 bwysig ein bod yn deall y prosesau ffisegol a biolegol sy鈥檔 digwydd wrth i fynydd i芒 o鈥檙 maint hwn doddi, yn aml ymhell o鈥檌 tharddiad.
鈥淭rwy gymysgu鈥檙 haenau cefnforol hyn 鈥 sydd fel arfer yn sefydlog iawn yn ystod haf yr Antarctig 鈥 mae tymheredd y m么r, ei halwynedd a maint y maetholion i gyd yn newid. Mae hyn, yn y pen draw, yn effeithio ar faint o wres a charbon sy鈥檔 cael ei gyfnewid rhwng y cefnfor a鈥檙 atmosffer.鈥
Roedd y genhadaeth hon yn cynnwys risg uchel; nid yw gleiderau robotig a weithredir o bell fel arfer yn cael eu defnyddio mor agos at fynyddoedd i芒.
Ychwanegodd Dr Lucas, 鈥Roedd y genhadaeth hon ymhell o fod yn syml. Roeddem yn treialu'r gleiderau o bell o dros 12000 km i ffwrdd, pob un ohonom yn ein swyddfeydd 'cyfnod clo' ein hunain yn ystod COVID, gan ddibynnu ar ddelweddaeth lloeren anaml digwmwl i leoli'r mynydd i芒 a'r mynyddoedd i芒 llai o'i gwmpas.
鈥淩oedd A-68a yn symud yn gyson, ac yn anffodus fe gollon ni un gleider, a chafodd yr ail gleider ei ddal o dan A-68a ychydig o weithiau. Fodd bynnag, ar 么l iddo ddod yn 么l i鈥檙 fei 17 diwrnod yn ddiweddarach, gyda chyfoeth o ddata, roeddem yn gallu mesur y prosesau dan sylw wrth i鈥檙 mynyddoedd i芒 anferth hyn doddi.鈥
Ers i A-68a ymrannu yn 2021, mae sawl mynydd i芒 anferth arall wedi gwneud eu ffordd i Dde Georgia. Y mwyaf nodedig o鈥檙 rhain yw A-23a, a ddaeth i stop ar ysgafell gyfandirol yr ynys yn gynharach eleni, gan ryddhau d诺r croyw a maetholion i鈥檙 cefnfor o amgylch gan effeithio ar y biosffer.
鈥横补别 Giant iceberg meltwater increases upper-ocean stratification and vertical mixing gan Lucas, N., et al wedi鈥檌 gyhoeddi yn Nature Geoscience.