Mae coedwigoedd yn dyrannu carbon yn yr ecosystem uwchben ac oddi tan y ddaear a hynny mewn ymateb i'r adnoddau sydd ar gael. Mae data am gynhyrchiant gwreiddiau m芒n a data morffolegol a gasglwyd gan Brifysgol 亚洲色吧 yn gwella ein dealltwriaeth o ddeinameg carbon coedwigoedd a鈥檙 strategaethau caffael maetholion sydd eu hangen er mwyn cynnal tyfiant coed pan fo lefelau uwch o CO2.
Mae gan ein canlyniadau oblygiadau pwysig o ran sut y caiff datblygiad coedwigoedd y dyfodol ei fodelu ym modelau system y Ddaear, gyda鈥檙 posibilrwydd o fireinio rhagfynegiadau ynghylch yr effaith ar ddynoliaeth yn sgil newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
Dechreuodd arbrawf FACE BIFoR yn 2017 gan fesur effaith lefelau uwch o CO2 ar gynhyrchiant pren trwy ddefnyddio sganio laser i drawsnewid diamedrau coed yn f脿s prennaidd. Cyfrifodd gwyddonwyr swm net y cynhyrchiant (NPP) trwy gyfuno cynhyrchiant pren y derw a鈥檙 isdyfiant gyda chynhyrchiant dail, gwreiddiau m芒n, blodau a hadau, a chyda faint o garbon organig sy鈥檔 cael ei ryddhau gan y gwreiddiau.
Canfu ymchwilwyr fod yr NPP 9.7% a 11.5% yn fwy mewn CO2 uchel nag mewn amodau amgylchynol yn 2021 a 2022, yn y drefn honno - cynnydd o tua 1.7 tunnell o ddeunydd sych fesul hectar y flwyddyn. Roedd y rhan fwyaf o'r cynnydd o ganlyniad i gynhyrchu pren ac nid oedd unrhyw newid yng nghynhyrchiant gwreiddiau m芒n na dail.
Bydd arbrawf FACE BIFoR yn parhau i鈥檙 degawd nesaf, gan ddarparu cyfleoedd i ddadansoddi ymatebion hirdymor a rhyngweithiadau 芒 ffactorau amgylcheddol eraill.