ɫ

Fy ngwlad:
Banner of modern lecture theatre

Uchafbwyntiau “Darlithoedd Engage” 2023

Cynhaliwyd cyfres gyntaf “Darlithoedd Engage mewn peirianneg, cyfrifiadura a dylunio,” rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023. Bu’r darlithoedd yn trafod amrywiol bynciau peirianneg, cyfrifiadura a dylunio. Cawsant eu trefnu gan Gangen Myfyrwyr IEEE ac Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol ɫ.

Cyfres o ddarlithoedd yw Engage sy’n trafod amrywiol bynciau sy’n ymwneud â Pheirianneg, Cyfrifiadura a Dylunio. Cânt eu trefnu gan Gangen Myfyrwyr IEEE ac Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol ɫ. Cynhaliwyd cyfres gyntaf “Engage” rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023. Bu’r darlithoedd yn trafod pynciau megis peirianneg, cyfrifiaduron, a dylunio ac fe'u trefnwyd. Cynhaliwyd wyth seminar y semester hwn, pob un ar ddydd Mercher am hanner dydd yn y brif ddarlithfa yn Stryd y Deon.

O dan arweiniad cangen myfyrwyr IEEE ɫ, mi wnaethom ni sefydlu Engage i ddod â myfyrwyr, ymchwilwyr, a staff ynghyd i drafod pynciau diddorol. Roeddent yn bleserus ac yn hwyl, a dysgodd pawb am amrywiaeth eang o bynciau. Cafodd y seminarau eu trefnu gan gangen myfyrwyr newydd IEEE ɫ, a’u cynnal yn yr Ysgol Gyfrifiadureg. Yn ystod y Semester, bu academyddion ac arweinwyr yn traddodi darlithoedd hynod ddiddorol am dechnolegau craidd, syniadau modern, ac egwyddorion allweddol.

Yr Athro Roberts,  Yr Athro Roberts, Athro mewn Delweddu a Chyfarwyddwr Effaith ac Ennyn Diddordeb Myfyrwyr

Bu’n flwyddyn wych o sgyrsiau gan amrywiaeth o bobl. Cawsom ninnau (y gynulleidfa) ein cyffroi a’n hysbrydoli i feddwl am y byd, am ymchwil, a thechnoleg a hynny mewn amrywiol ffyrdd. Cawsom sgyrsiau ynglŷn â threftadaeth, peirianneg niwclear, systemau digidol, Rhyngrwyd y Pethau, a realiti trochol. Aeth y pynciau hynny i'r afael â chwestiynau ymchwil mewn cynaliadwyedd, materion amgylcheddol, adloniant, gemau a ffilmiau. Edrychaf ymlaen at ddysgu mwy am y pynciau hynny ac eraill yng nghyfres nesaf darlithoedd Engage.

Jonathan Roberts, Athro Delweddu,  Athro mewn Delweddu a Chyfarwyddwr Effaith ac Ennyn Diddordeb Myfyrwyr